British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Medi 2011, 09:23 GMT 10:23 UK
Gwyl bwyd yn denu cogyddion enwog

Yr Wyddgrug
Bydd gwyl fwyd yr Wyddgrug yn cael ei chynnal ar faes parcio Stryd Newydd

Mae chweched ŵyl fwyd Yr Wyddgrug yn cael ei chynnal penwythnos yma.

Eleni mae'r ŵyl wedi llwyddo i ddenu cogyddion enwog fel Jean-Christophe Novelli, fydd yn cynnal arddangosiadau o'i waith ar y dydd Sul.

Bydd y cogyddion Brian Mellor a Graham Tinsley hefyd yn ymddangos yn yr ŵyl.

Blwyddyn diwetha' daeth mwy nag 11,000 o ymwelwyr i'r Wyddgrug ar gyfer yr ŵyl.

Cychod gwenyn

Dywedodd John Les Tomos, cadeirydd yr ŵyl: "Pob blwyddyn mae'r ŵyl wedi parhau i dyfu ac i ddod yn fwy a mwy poblogaidd.

"Mae ymwelwyr yn dod o dros ogledd Cymru, Sir Gaer, Manceinion ac ymhellach i ffwrdd.

"Eleni mae gennym lawer o arddangoswyr newydd, gwahanol weithgareddau i'r plant, cogyddion enwog a cherddoriaeth fyw drwy gydol yr ŵyl.

"Mae'n edrych fel bod yn benwythnos gwych arall."

Yn ogystal â mwy na 90 stondin lle bydd cynhyrchwyr bwyd yn dangos eu nwyddau bydd yna hefyd dwy gymdeithas cadw gwenyn lleol yn mynychu'r ŵyl.

Byddant yn cynnal arddangosfa lle bydd ymwelwyr yn gallu gweld y gwenyn wrth eu gwaith mewn cychod gwenyn arbennig.

Mae'r ŵyl ar agor o 10am tan 5pm ar ddydd Sadwrn Medi 24 a dydd Sul Medi 25.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific