British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Medi 2011, 16:03 GMT 17:03 UK
Cyngor yn rhewi taliadau tacsi

Tacsi
Yn y sir mae pobl yn talu £5.40 am daith ddwy filltir yn ystod y dydd

Mae cyngor wedi gwrthod ceisiadau rhai gyrwyr tacsi i godi taliadau tacsi fyddai'n golygu'r rhai uchaf yng Nghymru.

Roedd nifer o yrwyr tacsi yn Ninbych-y-pysgod a Phenfro wedi dweud nad oedd y taliadau wedi codi ers pedair blynedd er i gostau yswiriant a phetrol gynyddu yn ystod yr un cyfnod.

Ond roedd gyrwyr o ardaloedd eraill y sir oedd yn llai dibynnol ar dwristiaeth wedi honni y byddai cam o'r fath yn golygu llai o bobl yn defnyddio tacsis.

Penderfynodd y pwyllgor trwyddedu rewi'r taliadau.

Drutaf

Yn ôl arolwg, Sir Benfro oedd y drydedd ucha yng Nghymru o ran taliadau.

Yno mae pobl yn gorfod talu £5.40 am daith ddwy filltir yn ystod y dydd.

Yr ardal ddrutaf yng Nghymru yw Sir Fynwy lle mae pobl yn gorfod talu £5.70 a'r ardal rataf yw Blaenau Gwent lle mae pobl yn gorfod talu £4.30.

Roedd y pwyllgor yn ystyried tri opsiwn, rhewi taliadau, eu codi'n unol â chwyddiant neu eu codi ar sail yr hyn awgrymwyd gan grŵp o 44 gyrwyr a pherchnogion tacsi.

Cyn y cyfarfod dywedodd aelod o'r grŵp , Gary Slack o Ddinbych-y-pysgod, fod gyrwyr yn y dref mewn sefyllfa unigryw am eu bod nhw'n brysur yn ystod yr haf.

"Mae'r gwaith yn dymhorol iawn ac rydyn ni'n ennill y rhan fwyaf o'n cyflog am y flwyddyn yn ystod misoedd yr haf," meddai.

'60,000'

"Mae poblogaeth Dinbych-y-pysgod yn cynyddu o 4,500 o bobl i hyd at 50,000 neu 60,000 o bobl yn ystod yr haf.

"Ond pan mae'r ymwelwyr yn gadael dydyn ni ddim yn gallu denu cymaint o fusnes â threfi eraill."

Honnodd Rhidian Havard, gyrrwr tacsis yn Abergwaun, y byddai codi'r tâl yn effeithio'n andwyol ar fusnesau tacsis yn Sir Benfro.

"Dwi ddim eisiau nhw godi'r tâl o gwbl," meddai.

"Mae'n anodd iawn denu cwsmeriaid yn ystod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ac fe fyddai cynyddu taliadau yn lleihau'r nifer o gwsmeriaid."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific