British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Medi 2011, 08:57 GMT 09:57 UK
Sefydlu cwmni i achub sinema

Sinema Coliseum Porthmadog
Fe gafodd y sinema ei hagor yn y 1930au

Mae cwmni newydd wedi ei sefydlu i geisio achub Sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog, Gwynedd.

Mae Ffrindiau'r Sinema yn gwmni dielw sy'n gobeithio adnewyddu a chynnal yr adeilad a gafodd ei adeiladau yn ystod y 1930au.

Bu'n rhaid cau'r sinema ym mis Ionawr eleni dros oherwydd prinder cynulleidfaoedd.

Mae aelodau'r cwmni yn gofyn i bobl leol gyfrannu'n ariannol mewn ymgais i drawsnewid yr adeilad i'r "gampwaith Art Deco yr oedd arfer bod".

cyfranddaliadau

Eisoes mae blychau rhodd-daliadau wedi eu gosod o gwmpas y dref.

Y gred yw y bydd angen £60,000 i addasu'r adeilad.

Y Coliseum ydi un o sinemâu hynaf y sir ac mae wedi bod ar agor ers y 1930au.

Ym 1985 fe wnaeth pobl leol brynu cyfranddaliadau am £1 yn y busnes i gynnal y sinema.



HEFYD
Cyfarfod i drafod dyfodol sinema
29 Maw 11 |  Newyddion
Apl i gadw sinema ar agor
16 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific