British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Medi 2011, 08:49 GMT 09:49 UK
Colofn Eliseg: Olion o'r Oes Efydd

Yr Athro Nancy Edwards
Dim ond rhan o baladr crwn y groes fawr gerrig sydd ar ôl erbyn hyn

Mae archeolegwyr wedi canfod olion sy'n dyddio yn ôl i'r Oes Efydd ar safle colofn o'r 9fed Ganrif.

Cafodd cyfrinachau'r heneb eu datgelu yn ystod y gwaith cloddio diweddaraf ar safle Colofn Eliseg, ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen.

Mae olion esgyrn yn cael eu harchwilio gan archeolegwyr.

Mae archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer newydd orffen ail dymor o waith cloddio ar Golofn Eliseg a'r twmpath, gan ddefnyddio dulliau modern i ymchwilio ei hanes.

Rydyn ni'n credu ein bod ni wedi canfod olion o'r Oes Efydd gan gynnwys tystiolaeth o amlosgfeydd o'r Oes Efydd a bedd o'r canol oesoedd
Nancy Edwards

Dim ond rhan o baladr crwn y groes fawr gerrig sydd ar ôl erbyn hyn.

Ond mae yna fân olion arysgrif Lladin yn dweud iddi gael ei chodi er cof Eliseg.

Llwyddodd Eliseg i anfon y Saeson allan o'r wlad.

Cafodd y golofn ei chodi gan ŵyr Eliseg, Gyngen, tywysog teyrnas Powys a fu farw yn 854.

'Amlosgfeydd'

Does nes yn gwybod beth yw oed na phwrpas y twmpath lle saif y garreg.

Dywedodd yr Athro Nancy Edwards o Brifysgol Bangor: "Prif amcan y prosiect yw cyrraedd gwell dealltwriaeth am y gofeb ddirgel hon a sut y'i defnyddiwyd ac ail-ddefnyddiwyd dros amser."

"Rydyn ni'n credu ein bod ni wedi canfod olion o'r Oes Efydd gan gynnwys tystiolaeth o amlosgfeydd o'r Oes Efydd a bedd o'r canol oesoedd."

Cloddiwyd y twmpath ym 1773 gan y tirfeddiannwr lleol Thomas Lloyd ac yn ôl y sôn daethpwyd o hyd i gist garreg yn cynnwys ysgerbwd.

Aeth hefyd ati i ailgodi'r golofn.

Ond nid yw'r safle erioed wedi bod yn destun ymchwiliad archeolegol modern.

Canlyniad y sesiwn gyntaf o gloddio yn 2010, a fu'n canolbwyntio ar y twmpath, oedd ei hadnabod fel carnedd Oes Efydd Gynnar.

Mae'r gymuned hefyd yn cymryd rhan bwysig yn y project, dan arweiniad Amgueddfa Llangollen, gyda phnawn agored ar y safle ar ddydd Gwener Hydref 16, rhwng 3-6pm.

Noddir y prosiect gan Brifysgol Cymru, Cadw, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer.



HEFYD
Datgelu cyfrinachau Colofn Eliseg
07 Medi 11 |  Newyddion
Cloddio am hen hanes tomen
21 Gorff 10 |  Newyddion
Achub amgueddfa Llangollen
02 Ebr 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific