British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 22 Medi 2011, 14:28 GMT 15:28 UK
Gresffordd yn cofio glowyr

Y Parchedig Ganon David Griffiths
Cafodd y seremoni ei chynnal gan Y Parchedig Ganon David Griffiths

Mewn seremoni flynyddol mae'r 266 dyn fu farw yn nhrychineb pwll glo Gresffordd ym 1936 yn cael eu cofio.

Eleni, 77 mlynedd wedi trychineb Gresffordd, cafodd y pedwar a fu farw ym mhwll glo'r Gleision wythnos yn ôl eu cofio hefyd.

Collodd Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, eu bywydau yng nglofa'r Gleision yng Nghilybebyll, ger Pontardawe.

Mynychodd tua 40 o bobl y seremoni ger cofeb trychineb Gresffordd, ym mwrdeistref sirol Wrecsam, ddydd Iau.

Fe weddïodd y Parchedig Ganon David Griffiths, a gynhaliodd y seremoni, dros y pedwar dyn a'u teuluoedd.

Gweddïau

Dywedodd Mr Griffiths, sydd ei hun yn gyn-löwr: "Rydym wedi colli pedwar brawd da ac rydym yn sicr yn eu cofio yn ein gweddïau'r bore yma."

Ymhlith y rhai oedd yn y seremoni roedd Ruby McBurney, 79, a'i brodyr William Henry Crump, 78, a Cyril Crump, 81.

Collasant hwy eu tad yn nhrychineb Gresffordd.

William Henry Crump a Ruby McBurney a gollodd eu tad yn nhrychineb Gresffordd
Mae William Henry Crump a'i deulu yn ceisio mynychu'r seremoni bob blwyddyn

Gosododd Ms McBurney gerdyn ar gofeb Gresffordd gyda neges yn dweud 'Er cof am lowyr de Cymru'.

Ymhlith rhai eraill a fynychodd y gwasanaeth roedd Vic Tyler-Jones, llywydd Cymdeithas Hanes Lleol Llai, a ddywedodd bod rhodd wedi ei anfon at y gronfa ar gyfer perthnasau glowyr y Gleision gan Ganolfan Dreftadaeth Glowyr Llai.

Dywedodd Mr Tyler-Jones: "Cawsom gyfarfod a dywedodd un o'm haelodau y dylem ddangos ein cefnogaeth a chydymdeimlad â theuluoedd y glowyr, yn enwedig gan ein bod yn cofio'r achlysur hwn heddiw."



HEFYD
Cynulliad: Teyrnged i'r glowyr
20 Medi 11 |  Newyddion
Chwilio am gartref i olwyn
23 Tach 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific