British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Medi 2011, 05:44 GMT 06:44 UK
Cais i dorri'n rhydd o'r brifysgol

Prifysgol Glyndwr
Prifysgol Glyndwr: Statws yn haf 2008

Mae Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi gwneud cais ffurfiol i beidio â bod yn rhan o Brifysgol Cymru.

Ar ôl 2012 bydd myfyrwyr yn astudio ar gyfer graddau fydd yn cael eu rhoi yn enw Prifysgol Glyndŵr.

Ar hyn o bryd mae graddau yn cael eu dilysu ar y cyd gan Brifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Cymru.

Dywedodd is-ganghellor Glyndŵr, yr Athro Michael Scott, fod y penderfyniad yn un naturiol i'r sefydliad.

"Rydym wedi mwynhau statws prifysgol am gyfnod o dair blynedd," meddai.

"Mae llawer wedi newid mewn tair blynedd ac mae'r penderfyniad yn arwydd o dwf a chynnydd y brifysgol yn ystod y cyfnod."

Dywedodd fod y brifysgol yn sefydliad sy'n cael ei barchu a bod iddo gydnabyddiaeth ryngwladol.

Strwythur

"Rydym hefyd wedi chwarae rôl amlwg yn natblygiad cymdeithasol ac economaidd Gogledd-Ddwyrain Cymru," ychwanegodd.

Fe wnaeth y brifysgol sefydlu strwythur newydd yn 2010.

Dywedodd yr Athro Scott fod hyn wedi galluogi'r sefydliad i fonitro cost y cyrsiau sydd ar gael a sicrhau eu bod yn cwrdd â gofynion yr ardal a'r myfyrwyr.

Ychwanegodd fod graddau sy'n cael eu dilysu gan Brifysgol Glyndŵr yn rhai sy'n rhoi sicrwydd o ansawdd i fyfyrwyr a chyflogwyr.

Bydd gan fyfyrwyr sy'n cofrestru ar gyfer cyrsiau yn 2011 yr hawl i gofrestru ar gyfer gradd Prifysgol Glyndŵr neu fe fydd modd gwneud cais i dderbyn gradd Pririfysgol Cymru.

Y sefydliadau eraill sy'n rhan o Brifysgol Cymru yw Prifysgol Casnewydd, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Enw Glyndwr ar brifysgol newydd
15 Gorff 08 |  Newyddion
Athrofa: Statws prifysgol yn nes
03 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific