Ymddiswyddodd John Owen ddydd Mercher
|
Mae crwner Sir Gaerfyrddin, John Owen, wedi ymddiswyddo. Daw hyn ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod ei dystysgrif fel cyfreithiwr wedi cael ei hatal dros dro gan yr awdurdod sy'n rheoleiddio cyfreithwyr. Mae'r awdurdod wedi dweud eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad i'w bractis yn Llandeilo. Mae ei ddirprwy Pauline Mainwaring nawr yn gwneud ei waith yn ei le. Ymyrryd Dywed yr awdurdod eu bod nhw wedi ymyrryd yn swyddfa Mr Owen yn Llandeilo. Dywedodd llefarydd fod y dystysgrif wedi cael ei thynnu'n ôl tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal. "Mae Mr Paul Caldicott o gwmni Morgan Cole, Abertawe, wedi cael ei benodi ar ran y corff rheoleiddio," meddai'r llefarydd. Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cwynion Cyfreithiol - yr OJC: "Mae'r OJC yn ymwybodol o'r sefyllfa a dyw'r Crwner Owen ddim yn eistedd." Mae'r cwestau oedd fod i'w' clywed ar Fedi 23 wedi eu gohirio. Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr y byddai Pauline Mainwaring yn gwneud gwaith y crwner tan iddynt benodi crwner newydd.
|