British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Medi 2011, 15:54 GMT 16:54 UK
'Angen ail-asesu gwariant'

John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Y Senedd

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ymhen llai na phythefnos.

Ond yn y Cynulliad ddydd Mercher bu aelodau'r gwrthbleidiau yn galw am ail-asesiad o'r ffordd mae gwariant cyhoeddus yn cael ei weinyddu.

Yn ystod sesiwn holi'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt, galwodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ar i Lywodraeth Cymru edrych "yn arloesol" ar y ffordd mae arian yn cael ei ddefnyddio.

Mr Jones oedd y Gweinidog Datblygu Economaidd yn y llywodraeth flaenorol ac yn Ddirpwy Brif Weinidog.

Pwysleisiodd aelod Ynys Môn bwysigrwydd sicrhau cyllid gyfalaf wrth iddo leisio pryder na fyddai nifer o gynlluniau'r llywodraeth glymblaid ddiwethaf yn gweld golau ddydd o ganlyniad i'r setliad ariannol gafwyd gan lywodraeth Prydain.

Banc Buddsoddi Ewrop

Wrth siarad ar ran y Ceidwadwyr, honnodd aelod Ceidwadol Preseli Penfro, Paul Davies, y medrau Llywodraeth Cymru wneud mwy o ddefnydd o'r cyllid sydd ar gael o Fanc Buddsoddi Ewrop.

Cafodd y siambr sicrhad gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt y byddai'r llywodraeth yn edrych ar bob cyfle ariannu.

Daeth cadarnhad hefyd fod trafodaethau rhwng y gwahanol lywodraethau ym Mhrydain gyda'r Trysorlys eisoes wedi cychwyn i geisio sicrhau pwerau benthyg newydd i Gymru.

Yr Alban

Daeth hyn wrth i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi cyllideb ddrafft ar gyfer y tair blynedd nesa.

Wrth annerch senedd yr Alban daeth addewid gan y Gweinidog Cyllid yno fod llywodraeth yr Alban am wireddu'r addewidion wnaethon nhw yn ystod yr etholiadau ym mis Mai i geisio gwneud bywyd yn well i bobol y wlad.

Dyna ddwedodd John Swinney wrth gyhoeddi braslun o'i gynlluniau gwario am y tair blynedd nesaf.

Y flaenoriaeth, meddai, o fewn y sector gyhoeddus fydd i sicrhau cydweithio rhwng y sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn arbed arian, buddsoddi'r arbedion hynny ac arolygu'r ffordd mae pob dimau o arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Yn y tymor hir, y nod medda fo ydi gosod sylfaen gadarn ar gyfer ffyniant yr Alban.

Ond mi roedd y gwrthbleidiau yn barod iawn i gyhuddo John Swinney o geisio taflu llwch i lygaid y cyhoedd.

Mae'r cyhoeddiad ddydd Mercher yn digwydd o fewn cyd-destun gwleidyddol ac ariannol.

Yn wleidyddol mi enillodd yr SNP fwyafrif sylweddol fis Mai dwetha ac felly yn gallu gwneud fel ac y mynnon nhw heb orfod dibynnu am gefnogaeth gan y pleidiau eraill. Nid llywodraeth leiafrif mo hyn gan fod ganddyn fwyafrif cyfforddus

Ond mae 'na lyffethair economaidd ac ariannol ac mi dynnodd John Swinney sylw at hynny. Dadl yr SNP yw bod toriadau llywodraeth y Glymblaid yn golygu fod ganddyn nhw fel llywodraeth yr Alban lai i wario yno.

Wrth wario i wella, mae 'na reidrwydd medda Mr Swinney i ystyried toriadau a hynny oherwydd toriadau i'r arian mae'r Alban yn derbyn o goffrau llywodraeth San Steffan.

£3.3bn - 11% yn llai na 2010-11 - ond arian am ffyrdd ac ysgolion yn lleihau 36%.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyllideb ddrafft ar y pedwerydd o Hydref.



HEFYD
Tymor newydd yn y Senedd
20 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific