Mae'r lansiad yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd
|
Mae Ymgyrch Cymru Gyfan i atal pobol rhag defnyddio ffonau symudol wrth yrru yn cael ei lansio gan heddluoedd Cymru ddydd Iau. Er gwaethaf y newid yn y gyfraith yn 2007 sy'n golygu bod unrhyw un sy'n cael ei ddal yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn cael tri phwynt cosb ar y drwydded yrru a dirwy o £60 o leiaf, mae gyrwyr yng Nghymru yn dal i ddilyn yr arfer hwn gan dorri'r gyfraith. Heddlu Dyfed-Powys sy'n arwain yr ymgyrch. Mae'r lansiad yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd ddydd Iau. 'Gallu i ymateb' Dywedodd Ian Arundale, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: "Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth ymhlith gyrwyr o'r peryglon gwirioneddol o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru. "Mae defnyddio ffôn symudol neu set law wrth yr olwyn yn tynnu eich sylw ac yn effeithio ar eich gallu i ymateb. "Dim ond eiliad sydd ei angen, a gallech achosi gwrthdrawiad difrifol neu fod yn gyfrifol am ddamwain angheuol. "P'un ai yw'r ffôn wrth eich clust neu ar eich glin yn anfon neges testun, mae ymchwil yn dangos ei fod yn effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio, yn lleihau eich gallu i adnabod peryglon a hefyd yn arafu eich ymateb iddynt "Nid yw gyrru a ffonau symudol yn cymysgu. "Mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn golygu eich bod pedair gwaith yn fwy tebygol i gael damwain. "Nid yw galwad ffôn yn werth y perygl hwnnw". Yn ôl yr heddlu, un o'r pum prif ffactor cyfrannol ymhob gwrthdrawiad angheuol neu ddifrifol ar draws y wlad yw gyrwyr yn camddefnyddio ffonau symudol. Ychwanegodd Mr Arundale: "Rydym am i bobl sylweddoli bod defnyddio ffôn symudol wrth yr olwyn llawn mor anystyriol ac annerbyniol yng ngolwg cymdeithas ag yw yfed a gyrru, a bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn ffonio wrth yrru yn cael ei erlyn. "Ein neges ni i'r bobl hynny yw nad yw'n ddiogel o gwbl. "Rydych yn rhedeg y risg o ladd eich hun, eich teithwyr a phobl ddiniwed eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd."
|