British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Medi 2011, 15:06 GMT 16:06 UK
Cyrffyw i lanc wnaeth annog terfysg

Gwefan Facebook
Fe fydd rhaid i'r llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, dalu costau o £80

Mae llanc o Bowys oedd wedi annog pobl ar y wefan gymdeithasol Facebook i ddechrau reiat yn y Drenewydd wedi ei ddedfrydu i gyrffyw yn ystod y nos.

Cafodd y llanc 15 oed o'r Drenewydd ei ddedfrydu gan Lys Ynadon Y Trallwng i ddilyn Orchymyn Ailsefydlu Ieuenctid am 12 mis ac ufuddhau i orchymyn i beidio gadael ei gartref rhwng 7pm a 7am bob nos am dri mis.

Fe fydd rhaid i'r llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, dalu costau o £80.

Roedd e eisoes wedi cyfaddef i dorri'r gyfraith mewn gwrandawiad llys arall.

'Difeddwl'

Clywodd y llys fod y llanc wedi anfon neges ar Facebook ar 9 Awst gan ddweud: "Unrhyw1 yn dechrau reiat yn y Drenewydd?"

Awgrymodd y neges y gellid targedu Bwyty Indiaidd ac yna orsaf heddlu yn y Drenewydd.

Dywedodd neges arall: "Fe fydd yn her ond ymlaen â ni...digon am nawr... dyn ni ddim am i neb i wybod am ein cynlluniau."

Dywedodd y cyfreithiwr ar ran yr amddiffyn, Robert Hanratty: "Roedd e wedi bod yn clebran yn ddifeddwl ar Facebook.

"Roedd y neges i fod yn jôc ond roedd y jôc yn ddi-chwaeth."

Dywedodd cadeirydd y fainc, Nick Powell: "Roeddech chi'n annog pobl eraill i gyflawni troseddau."

Cafodd nifer o bobl eu harestio yng Nghymru ar amheuaeth o annog troseddau o dan y drefn gyhoeddus, y mwyafrif drwy ddefnyddio gwefannau cymdeithasol yn ystod dechrau mis Awst eleni wrth i drais ac anrhefn cymryd lle mewn rhai o ddinasoedd Lloegr.

Daw achos llys y llanc wedi i ddau ddyn o Swydd Gaer gael eu dedfrydu i bedair blynedd yn y carchar am drosedd tebyg ym mis Awst.

Daw ei ddedfryd wedi i Jordan Blackshaw, 21, o Vale Road, Marston, a Perry Sutcliffe-Keenan, 22, o Richmond Avenue, Warrington, gyfaddef i annog pobol eraill i gynnal reiat drwy gyfrwng Facebook.

Ym mis Awst cafodd David Glyn Jones, 21 oed, o Fangor, Gwynedd, ei ddedfrydu i bedwar mis yn y carchar gan Lys Ynadon Caernarfon ar ôl iddo gyfaddef annog cyfeillion ar Facebook i ddechrau reiat.



HEFYD
Terfysg: Cadw pedwar yn y ddalfa
19 Awst 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific