British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Medi 2011, 13:13 GMT 14:13 UK
S4C: Pennaeth newydd?

Pencadlys S4C
Dechreuodd Ian Jones ei yrfa gyda S4C ym 1981

Mae adroddiadau yn y wasg yn awgrymu mai uwch-swyddog cwmni teledu sy'n gweithio yn Efrog Newydd ar hyn o bryd fydd Prif Weithredwr newydd S4C.

Dechreuodd Ian Jones ei yrfa gyda'r sianel ym 1981, ac mae ffynonellau o fewn y diwydiant yn awgrymu mai ef yw dewis Awdurdod S4C fel pennaeth newydd y sianel.

Mae S4C yn dweud nad ydynt am wneud sylw am enw'r ymgeisydd llwyddiannus ar hyn o bryd oherwydd trafodaethau cytundebol yn ymwneud â chyflogwyr presennol yr unigolyn barhau.

Gyrfa

Ar hyn o bryd, Mr Jones yw rheolwr gyfarwyddwr A&E Television Networks, sydd yn cynnwys The History Channel a nifer o sianelau digidol eraill.

Ar ôl gadael S4C, fe dreuliodd gyfnod gyda London Weekend Television cyn dychwelyd i weithio i S4C yn 1990au.

Bu'n gweithio i amryw gwmnïau teledu annibynnol eraill cyn cael ei benodi'n is-lywydd National Geographic Television cyn dechrau ar ei swydd bresennol.

Protest

Daw'r dyfalu am y penodiad newydd wrth i aelodau o Gymdeithas Yr Iaith ddringo ar do pencadlys S4C yng Nghaerdydd fel protest yn erbyn y modd y bydd y sianel yn cael ei hariannu yn y dyfodol, a'r cysylltiad arfaethedig gyda'r BBC.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae Awdurdod S4C wedi dod i benderfyniad ddydd Gwener diwethaf (Medi 16) ynglŷn â Phrif Weithredwr newydd ond oherwydd materion cytundebol mewn perthynas â chyflogwyr presennol yr unigolyn nid yw'n bosib gwneud cyhoeddiad pellach ar hyn o bryd."



HEFYD
Protest ar do S4C
21 Medi 11 |  Newyddion
S4C yn hysbysebu am brif weithredwr
23 Meh 11 |  Newyddion
'Oedi cyn penodi prif weithredwr'
30 Tach 10 |  Newyddion
Prif Weithredwr wedi gadael S4C
28 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific