British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Medi 2011, 10:49 GMT 11:49 UK
Protest ar do S4C

Protest
Aelodau Cymdeithas yr Iaith ar do adeilad S4C

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi dringo i do pencadlys S4C yng Nghaerdydd mewn protest yn erbyn newid yn y modd o gyllido'r Sianel yn y dyfodol.

Dywed yr heddlu fod tua dwsin o aelodau'r Gymdeithas wedi ymgynnull y tu allan i'r adeilad yn Llanisien fore Mercher.

Credir fod pedwar wedi mynd i do'r adeilad.

Mae Adran Ddiwylliant San Steffan wedi cyhoeddi newid i'r drefn bresennol o ariannu S4C.

Mae'r Sianel yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb bresennol o £100 miliwn y flwyddyn.

O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei hariannu gan y BBC yn rhannol o'r drwydded deledu.

Mae mudiadau iaith a rhai gwleidyddion yn dweud bydd y newidiadau yn effeithio ar annibyniaeth y Sianel.

Mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd S4C, fe ysgrifennodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydym wedi dweud ers cyhoeddi'r cynllun gwreiddiol na fyddai S4C yn cadw'i hannibyniaeth, ond mae hynny'n fwy sicr nag erioed o dan y penderfyniadau diweddaraf.

"Mae'r BBC ei hun yn wynebu toriadau felly bydd yn anodd iawn i'r gorfforaeth ariannu'r sianel, o gael pennu'r gyllideb beth fydd yn gwarchod buddiannau S4C?

"Bydd S4C yn cystadlu am gyllideb gyda rhaglenni Saesneg y BBC a does dim disgwyl y bydd y gorfforaeth yn ystyried sianel mae wedi'i llyncu dros ei chynnyrch ei hun."

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae'r trafodaethau rhyngom a'r DCMS ac Ymddiriedolaeth y BBC yn mynd yn eu blaen.

"Mae annibyniaeth weithredol a golygyddol o dan unrhyw drefniant newydd gydag Ymddiriedolaeth y BBC yn bwysig i S4C ac i'n cynulleidfa."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific