Mae'r Byrddau Iechyd wrthi'n paratoi cynlluniau am newid a moderneiddio'r GIG
|
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio y bydd newidiadau anodd i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd Lesley Griffiths AC yn siarad mewn cynhadledd ddydd Mercher gan ddweud y bydd newid mawr yn digwydd dros y pum mlynedd nesaf. Fe fydd hi'n addo "derbyn beirniadaeth" am y newidiadau gan ddweud na fyddan nhw'n hawdd i staff nac i gleifion. Mae'r gwrthbleidiau wedi cyhuddo'r gweinidog o osgoi cyfrifoldeb drwy sefydlu grŵp annibynnol i ystyried argymhellion gan fyrddau iechyd am newid. Bydd Ms Griffiths yn ateb y beirniaid mewn araith i gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru lle bydd yn dweud fod newid yn anorfod. 'Penderfyniadau anodd' Dydd Llun fe amlinellodd y cynlluniau i wella gofal mamolaeth yng Nghymru, gan rybuddio byrddau iechyd na ellid caniatáu i wasanaethau lacio drwy beidio moderneiddio. Bydd yn dweud ddydd Mercher: "Ni fydd gwneud y newidiadau yma'n hawdd. "Ni fyddan nhw'n hawdd i staff ymroddgar sy'n gweithio yn y GIG. Mewn rhai achosion, ni fydd y newidiadau'n hawdd i gleifion eu derbyn chwaith. "Ar lefel bersonol, rwy'n gwybod na fydd y newidiadau yn hawdd yn wleidyddol chwaith - fe fydd y byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau anodd y bydd rhaid i mi eu hystyried yn y pen draw. "Ond rhaid i mi bwysleisio beth bynnag yw'r feirniadaeth sydd o 'mlaen i wrth gyflawni'r polisïau sydd gennym i wella'r GIG, neu i wneud y penderfyniadau cywir i Gymru ar sut y bydd gwasanaethau'n cael eu cyflawni yn y dyfodol, mae un peth yn sicr. "Ni fyddaf yn gochel rhag y gwaith sydd o'n blaenau oherwydd rwy'n gwybod fod rhaid newid, a bod y hi'n hen bryd i'r newid ddigwydd mewn rhai achosion." Dadl danllyd Bu dadl danllyd yn y senedd ddydd Mawrth rhwng y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies. Roedd Mr Davies yn dweud fod ymgynghorwyr i Lywodraeth Cymru wedi creu cynlluniau i gael gwared a 1,200 o nyrsys, peidio recriwtio mwy o staff ac i gau rhai o adnoddau'r GIG. Gwadodd y Prif Weinidog fod y gwaith gan gwmni McKinsey wedi ei wneud ar ran y llywodraeth gan bwysleisio nad oedd y toriadau wedi digwydd. Deellir y bydd y Byrddau Iechyd yn cyflwyno eu cynlluniau i newid a moderneiddio i Ms Griffiths o fewn yr wythnosau nesaf. Eisoes mae hi wedi cyhoeddi panel annibynnol - y Fforwm Clinigol Cenedlaethol - i archwilio'r cynigion ar ei ran. Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC: "Mae sefydlu'r grŵp yma yn ymgais gan y gweinidog i osgoi cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru. "Mae'n symudiad llwfr sy'n ceisio pasio cyfrifoldeb am benderfyniadau amhoblogaidd sy'n ganlyniad uniongyrchol o bolisi Llywodraeth Lafur Cymru."
|