Bydd y mur 140 metr wrth 40 metr yn cael ei wneud o greigiau
|
Disgwylir i fur o greigiau sy'n cael ei godi o dan y môr ym Mae Ceredigion ddenu mwy o syrffwyr i ganolbarth Cymru. Mae'r cynllun, sy'n costio £29 miliwn, yn rhan o gynllun i amddiffyn yr arfordir. Y bwriad yw cwblhau y rhan gyntaf o'r cynllun yn Y Borth, ger Aberystwyth, erbyn mis Tachwedd 2011. Mae Cyngor Ceredigion yn honni bydd y greigres - sef mur o greigiau neu far tywod o dan y môr - yn lleihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol. Ac mae ysgolion syrffio yn ffyddiog y bydd y greigres yn denu syrffwyr o bob rhan o Brydain. 'Erydu Mae'r mur 140 metr wrth 40 metr yn cael ei wneud o greigiau ac yn cael ei adeiladu wrth ymyl morglawdd sy'n mesur 70 metr wrth 40 metr ac wedi ei osod 300 metr i mewn i'r môr. Dywedodd Simon Turner o Aber Adventures, sy'n trefnu gwersi syrffio ym Mae Ceredigion fod yna botensial mawr ddenu mwy o syrffwyr.
Credir bod tua 330 o adeiladau mewn risg o lifogydd
|
"Hon yw un o'r rhai cyntaf yn y byd sydd wedi ei chreu o gerrig," meddai. "Bydd pobl eisiau gweld y greigres newydd hon am ei bod hi'n un newydd." Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion mai prif nod y cynllun yw lleihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yn yr ardal yn ogystal â chadw traeth y Borth yn agored i'r cyhoedd. Dywedodd Prif Weithredwr Twristiaeth Canolbarth Cymru, Val Hawkins: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd y buddsoddiad newydd hwn yn denu mwy o syrffwyr i Ganolbarth Cymru gan warchod y Borth hefyd." Adeiladwyd yr amddiffynfeydd presennol ym 1960, a chredir bod tua 330 o adeiladau mewn risg o lifogydd, gan gynnwys 40 o adeiladau masnachol, rheilffordd y Cambrian a ffordd y B4353. Daeth £5.5m ar gyfer y rhan gyntaf o'r cynllun o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
|