British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Medi 2011, 18:58 GMT 19:58 UK
Darlledu: 'Angen esboniad clir'

Stiwdio Radio
Bydd trwydded Radio Ceredigion yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith ac Ofcom yn gofyn am esboniad clir beth yw eu safbwynt ynglŷn â Chynllun Iaith Ofcom.

Mae'r ddau gorff yn anghydweld a oes gan Ofcom yr hawl i orfodi gorsafoedd radio lleol i gynnwys cymal am y defnydd o'r Gymraeg.

Dywedodd y gweinidog ei fod wedi ysgrifennu at y ddau gorff i ofyn am fwy o wybodaeth cyn iddo wneud penderfyniad.

Mae'r mater wedi codi'i ben eto tra bod disgwyl adnewyddu trwydded Radio Ceredigion.

Bydd honno'n cael ei chyhoeddi ym mis Hydref.

Perygl

Yr wythnos diwethaf rhybuddiodd Bwrdd yr Iaith fod yna berygl i'r iaith os nad oedd yn cael ei chynnwys yng nghytundebau trwyddedau.

Gofynnodd y bwrdd i Lywodraeth Cymru bwyso ar Ofcom i sicrhau bod gorsafoedd lleol yn darlledu'n Gymraeg mewn ardaloedd lle oedd y Gymraeg yn brif iaith.

Mae Ofcom wedi dweud nad oes ganddyn nhw'r grym i orfodi cymal am y Gymraeg ar orsafoedd lleol o dan Ddeddf Darlledu 1990.

Ers misoedd mae'r bwrdd wedi gwrthod cymeradwyo Cynllun Iaith Ofcom - ac wedi cyfeirio'r mater at Lywodraeth Cymru ers 15 mis.

Mater o frys

Oherwydd amseru cyhoeddi trwydded Radio Ceredigion mae'r bwrdd wedi dweud bod setlo'r anghydfod yn fater o frys.

Y tro hwn fe fydd cystadleuaeth agored a'r ymgeiswyr eu hunain yn nodi faint o Gymraeg y byddan nhw'n ei gynnwys.

Dywedodd Town and Country Broadcasting, sy'n dal y drwydded ar hyn o bryd, eu bod nhw'n gobeithio parhau i gynnig gwasanaeth sy'n apelio ar draws Ceredigion.

'Croesawu'

Mae Mr Andrews wedi gofyn i Fwrdd yr Iaith egluro pam bod angen cynnwys cymal am y defnydd o'r Gymraeg a beth fyddai'r effaith.

Yn ogystal mae wedi gofyn i Ofcom egluro pam na ddylai'r fath gymal gael ei gynnwys.

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones: "Er bod y mater hwn wedi ei drafod yn helaeth gyda'r llywodraeth yn y gorffennol, rwy'n croesawu'r cyfle i gael y drafodaeth gyda'r gweinidog newydd."

Mae Ofcom wedi dweud eu bod yn croesawu bod y gweinidog yn ystyried y sefyllfa oherwydd pwysigrwydd y mater.



HEFYD
Rhybudd am 'berygl i'r iaith'
14 Medi 11 |  Newyddion
Radio: 30 yn trafod pryderon
21 Ebr 10 |  Newyddion
Gorsaf radio'n newid lleoliad
16 Ebr 10 |  Newyddion
Trafod dyfodol gorsaf radio
08 Maw 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific