British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Medi 2011, 20:31 GMT 21:31 UK
Canolfan Gymreig: Ymateb 'anhygoel'

Y Saith Seren
Mae adeilad y Saith Seren wedi ei brynu ar ran Canolfan Gymraeg Wrecsam

Cafwyd ymateb 'anhygoel o bositif' mewn cyfarfodydd i drafod cynllun i sefydlu canolfan i hyrwyddo diwylliant Cymreig yn Wrecsam, yn ôl cadeirydd y fenter gydweithredol.

Ddydd Mercher a dydd Iau mae yna gyfres o gyfarfodydd ar gyfer pobl sy'n awyddus i fuddsoddi yn y fenter.

Roedd y sesiynau Cymraeg am 2pm, 5pm a 7pm ddydd Mercher ac aeth tua 50 o bobl yno.

Roedd cyflwyniad byr, cyfle i holi cwestiynau ac yna taith fer o amgylch yr adeilad er mwyn gweld sut le fydd y Ganolfan.

'Synnu'

Dywedodd cadeirydd y fenter gydweithredol, y Cynghorydd Marc Jones nos Fercher: "Roedd yr ymateb yn anhygoel o bositif.

"Roedd pobol yn gofyn llawer o gwestiynau ac roedd yn gyfle iddyn nhw weld y dafarn.

"Roedd llawer yn synnu bod y dafarn mewn cyflwr mor dda.

"Mae 'na bobl sydd wedi cynnig dros £1,000 sy'n gryn dipyn yn yr amgylchiadau economaidd presennol.

"Ond ry' ni'n parhau i chwilio am fuddsoddwyr wrth gwrs".

Y nod yw sefydlu canolfan ar gyfer cymdeithasu a chynnal dosbarthiadau i ddysgwyr.

Mae adeilad y Saith Seren yn Stryd Caer wedi ei brynu ar ran Canolfan Gymraeg Wrecsam.

Bydd lle ynddo ar gyfer bar, bwyty, a gyda stafelloedd i fyny'r grisiau ar gyfer swyddfeydd, stafelloedd cyfarfod a dosbarthiadau i ddysgwyr.

Dywedodd Mr Jones: "Bu rhaid inni symud yn gyflym i sicrhau na fyddai'r bragdy oedd yn berchen ar y dafarn yn ei gwerthu mewn ocsiwn.

"Felly taron ni gytundeb â sefydliad dielw iddynt brynu'r adeilad ar ein rhan."

'Adfywio'

Yn ôl Cynghorydd Jones, mae menter gydweithredol wedi ei sefydlu a'r bwriadu sicrhau prydles yn y tymor byr gyda'r opsiwn i brynu'r ganolfan yn y tymor hir.

Ychwanegodd: "Mae angen codi arian er mwyn cael y bar a'r gegin yn barod i'w agor erbyn dechrau mis Rhagfyr.

"Rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni llawer mewn cyfnod byr ac rwy'n mawr obeithio y gallwn wireddu'r syniad.

"Nod y prosiect unigryw hwn yw adfywio adeilad gwych yng nghanol y dre."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific