British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Medi 2011, 05:46 GMT 06:46 UK
Peryglon posibl cymysgu alcohol a diodydd egni

Diodydd
Mae ACC hefyd yn herio cynhyrchwyr a gwerthwyr diodydd egni i ymddwyn yn fwy cyfrifol

Mae Alcohol Concern Cymru (ACC) yn annog yfwyr i fod yn fwy ymwybodol am beryglon posibl cymysgu alcohol a diodydd egni.

Yn eu papur briffio newydd 'Negeseuon Cymysg' sy'n cael ei lansio heddiw mae'r elusen yn tynnu sylw at beryglon posibl cymysgu diodydd sy'n cynnwys llawer o gaffein gydag alcohol.

Yn ôl ACC gall y caffein mewn diodydd egni guddio effeithiau alcohol, gan wneud pobl yn llai ymwybodol pa mor feddw ydyn nhw ac yn fwy tebygol o roi eu hunain mewn perygl.

Mae ACC hefyd yn herio cynhyrchwyr a gwerthwyr diodydd egni i ymddwyn yn fwy cyfrifol.

Mae caffeine ac alcohol yn ddiwretigion - maen nhw'n gwneud i ni basio d?r - felly mae cymysgu diodydd egni ac alcohol yn gallu ein gadael yn ddifrifol o sychedig
Andrew Misell

Mae'r elusen yn galw ar gynhyrchwyr diodydd egni i dynnu sylw yn eu hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu at beryglon posibl cymysgu eu diodydd ag alcohol, ac yn galw ar glybiau a bariau i roi'r gorau i hyrwyddo diodydd egni fel diodydd i'w cymysgu ag alcohol.

Dywedodd Andrew Misell o Alcohol Concern Cymru fod gwerthiant diodydd egni wedi cynyddu'n aruthrol ym Mhrydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

'Espresso dwbl'

Ychwanegodd: "Mae gwerthiant diodydd wedi cynyddu yn enwedig ymysg pobl ifanc, ond nid oes llawer o gyngor ar gael am beryglon cymysgu diodydd uchel eu caffein gydag alcohol.

"Efallai nad yw pobl yn sylweddoli faint o gaffein maen nhw'n ei yfed.

"Mae can 500ml o ddiod egni cyffredin fel Rockstar, Relentless neu Monster yn cynnwys 160mg o gaffein.

"Mae hynny gymaint ag espresso dwbl neu bum can o Coca-cola.

"Mae caffein ac alcohol yn ddiwretigion - maen nhw'n gwneud i ni basio d?r - felly mae cymysgu diodydd egni ac alcohol yn gallu ein gadael yn ddifrifol o sychedig.

"Gall hyn arwain at chwydu a phen tost, a phroblemau iechyd eraill yn y tymor hir.

Yn ôl Mr Misell, yr hyn sy'n fwy peryglus, efallai, yw bod yfed llawer o gaffein yn ein hadfywio ni, a gall hyn guddio effeithiau alcohol, sy'n arafu'r corff a'r meddwl.

Ychwanegodd: "Gall pobl sy'n yfed diodydd egni gydag alcohol deimlo'n effro iawn heb sylweddoli pa mor feddw ydyn nhw.

"Un canlyniad posibl i hyn yw y bydd yfwyr yn ymddwyn yn llai gofalus.

"Yn ôl astudiaeth yn yr Unol Daleithiau, roedd myfyrwyr oedd yn yfed alcohol gyda diodydd egni bedair gwaith yn fwy tebygol o fwriadu gyrru eu ceir ar ôl yfed na'r rhai oedd wedi yfed alcohol heb ddiodydd egni."

Mae gwefan Yfed Doeth Cymru sydd gan Alcohol Concern Cymru yn cynnwys teclyn cyfrif alcohol a diodydd egni sy'n dangos faint o alcohol, caffein a siwgr sydd mewn coctels diodydd egni cyffredin fel fodca dwbl a Red Bull, Jägerbomb (siot o Jägermeister gyda Red Bull), a TVR (tequila, fodca a Red Bull).



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific