British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Medi 2011, 13:34 GMT 14:34 UK
Cynulliad: Teyrnged i lowyr Gleision

Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell
Y pedwar glwr fu farw: Charles Breslin, Phillip Hill (uchaf) a Garry Jenkins, a David Powell (gwaelod, chwith i dde)

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi teyrnged i'r pedwar glöwr fu farw ym Mhwll Glo Gleision ger Pontardawe.

Cafwyd hyd i gyrff Phillip Hill, 45 o Gastell-nedd, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, y tri o Gwm Tawe, ddydd Gwener.

Erbyn hyn, mae cronfa, gafodd ei sefydlu ddydd Sadwrn ar gyfer y teuluoedd, wedi casglu mwy na £70,000.

"Mae hanes y diwydiant glo yn gwlwm grymus rhwng ein cymunedau," meddai Mr Jones. "Mae trychineb Pwll y Gleision yn drychineb i Gymru.

"Rwy'n gwybod bod pob AC yn ymuno â fi wrth anfon ein cydymdeimlad diffuant at y teuluoedd.

"Rydyn ni'n meddwl am y teuluoedd a'r gymuned ehangach.

"Roedd 'na adeg yn ein hanes pan oedd damweiniau fel hyn yn gyffredin ac roedden ni'n gobeithio y byddai'r digwyddiadau hyn wedi dod i ben.

'Peryglon'

"Ond mae'r hyn ddigwyddodd ym Mhwll y Gleision yn ein hatgoffa o beryglon y diwydiant hwn."

Dywedodd AC Castell-nedd, Gwenda Thomas, fod pobl wedi meddwl bod damweiniau fel hyn "yn perthyn i'r gorffennol".

"Ond mae'r drychineb wedi dwyn atgofion poenus iawn yn ôl," meddai.

Fore Mawrth roedd hi yn Ysgol Gyfun Ystalyfera am fod dau ddisgybl wedi colli eu tadau.

Dywedodd Mr Jones taw Heddlu De Cymru oedd yn arwain yr ymchwiliad a bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cefnogi'n dechnegol.

Yn ddiweddarach, meddai, efallai y byddai'n briodol i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch arwain yr ymchwiliad.

"Rwy'n disgwyl y bydd adroddiad llawn am yr achosion yn cael ei gyhoeddi yn y man fel bod modd dysgu gwersi.

'Yn drawiadol'

"Fe hoffwn i roi teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r timau achub oedd yn ddiorffwys ac yn wynebu perygl wrth chwilio am y glowyr.

"Yn draddodiadol, mae'r cymunedau glofaol yn cynnig help a chefnogaeth i'r rhai mewn angen.

"Roedd hyn yn amlwg wrth i'r gymuned ymateb wrth sefydlu canolbwynt yng Nghanolfan Gymunedol Y Rhos.

"Roedd y gefnogaeth yn drawiadol."

Galwodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, am gefnogaeth ar gyfer teuluoedd y dynion fu farw a'r rhai lwyddodd i ddianc.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod ymateb pobl leol yn "dystiolaeth o ysbryd y gymuned".

Yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd yn bwysig cofio na ddylai unrhyw ddyn mewn unrhyw ddiwydiant fynd i'r gwaith ac ofni na fyddai'n mynd adre.



HEFYD
Teyrngedau teuluoedd i lowyr
19 Medi 11 |  Newyddion
Cofio'r glowyr a gollwyd
18 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Darganfod pedwerydd corff
16 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Deifwyr yn gorfod troi'n l
16 Medi 11 |  Newyddion
Pedwar yn sownd dan ddaear
15 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific