British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Medi 2011, 12:18 GMT 13:18 UK
Cefnogwr: Dyn yn y llys

Mike Dye
Bu farw Michael Dye ar ddydd Mawrth, Medi 6

Mae dyn wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o ddynladdiad cefnogwr pêl-droed o Gymru yn Wembley bythefnos yn ôl.

Bu farw Michael Dye, 44 oed, o anafiadau difrifol i'w ben y tu allan i'r stadiwm cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar Fedi 6.

Ni phlediodd Ian Mytton, 41 oed o Redditch, yn ystod y gwrandawiad cychwynnol yn Llys y Goron Caerwrangon.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan Tachwedd 15.

Roedd Mr Dye wedi ei gludo i Ysbyty Northwich Park wedi iddo dorri ei benglog tua 7.20pm ond bu farw ychydig wedi iddo gyrraedd yno.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd dyn 42 oed ei arestio yng Nghaerwrangon cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan ganol Tachwedd.

Cafodd tri dyn arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tan ddechrau mis Tachwedd.



HEFYD
Marwolaeth: Dyn ar fechnÔaeth
14 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth: Arestio dyn arall
13 Medi 11 |  Newyddion
Agor cwest i gefnogwr pÍl-droed
13 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth: Dyn yn y ddalfa
12 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth Wembley: Arestio tri
11 Medi 11 |  Newyddion
Dim camau pellach yn erbyn chwech
09 Medi 11 |  Newyddion
Ymchwilio i farwolaeth
07 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific