British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Medi 2011, 12:43 GMT 13:43 UK
Dyfodol canolfan 'yn y fantol'

Canolfan Cywain, Y Bala
Agorwyd Canolfan Cywain yn 2008 ar gost o 2 miliwn

Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â dyfodol canolfan dreftadaeth wledig yng Ngwynedd wrth i'r rheolwyr ystyried trosglwyddo'r awenau i rywun arall.

Fe agorwyd Canolfan Cywain yn Y Bala yn 2008 o dan reolaeth cyfarwyddwyr y safle ac Antur Penllyn.

Ar gost o dros £2 miliwn cafodd hen adeiladau ar Stad y Rhiwlas eu troi'n ganolfan fodern.

Y nod oedd rhoi hwb economaidd i bum plwy Penllyn a "denu pobl o bell ac agos".

Ond mae'r rheolwyr wedi penderfynu "ystyried edrych am rywun newydd" i reoli'r ganolfan.

Wrth esbonio'r penderfyniad, dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan: "Mae'r cyfarwyddwyr yn teimlo, efo'r adnoddau arbennig sydd yn y ganolfan, y gall hi chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Y Bala a Phenllyn yn y dyfodol.

"Felly, gan fod y tymor ymwelwyr yn araf ddirwyn i ben am eleni bydd y ganolfan yn cau dros y gaeaf."



HEFYD
Agor canolfan bywyd gwledig
06 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific