British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Medi 2011, 18:59 GMT 19:59 UK
Creu ardaloedd mentergarwch

Senedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pump ardal fentergarwch yn cael eu creu.

Y pump yw Ynys Môn (diwydiant ynni), Canol Caerdydd (gwasanaethau ariannol), Glyn Ebwy (diwydiant ceir), Glannau Dyfrdwy (cynhyrchu nwyddau) a Sain Tathan (diwydiant awyr).

Y fantais fwya i gwmnïoedd fydd rhyddhad ar drethi busnes yn yr ardaloedd dan sylw.

Fe fydd £10m ar gael yn ystod cyfnod o bum mlynedd.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn ateb Cymreig ac nid yn dilyn yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr."

Ynghynt ddydd Llun roedd 'na gyhoeddiad y byddai Jaguar Land Rover yn codi ffatri yng Naghanolbarth Lloegr.

£355 miliwn

Roedd 'na ddyfalu y gallai de Cymru gael ei ddewis ar gyfer codi'r safle gwerth £355 miliwn.

Bydd hyd at 750 o bobl yn cael eu cyflogi yn y ffatri yn Wolverhampton.

Fore Llun dywedodd Gweinidog Busnes yr Wrthblaid, Nick Ramsay AC: "Mae'r newyddion yn drychinebus i Gymru a dwi'n cwestiynu ymdrechion y llywodraeth Lafur yng Nghymru i ddenu'r buddsoddiad.

"Does dim ardaloedd mentergarwch yng Nghymru ar hyn o bryd oherwydd mae'r Gweinidog Busnes yn cymryd misoedd i gael trefn ar bethau ..."

'Cwestiynau'

Dywedodd llefarydd economi Plaid Cymru, Alun Ffred Jones AC: "Roedd hi'n glir fod y cwmni â diddordeb mewn lleoli ffatri yn ne Cymru.

"Mae angen gofyn cwestiynau pam nad yw hyn yn digwydd.

"Yng Nghymru mae 'na lawer o arbenigedd yn y maes hwn ac, yn sicr, fe fyddai llawer o botential wedi ei harneisio.

"Mi fyddai'r buddsoddiad wedi bod yn hwb fawr i Gymru."

Fe fyddai, meddai, yn galw ar y Gweinidog Economi, Edwina Hart, i sefydlu pam yn union y collodd Cymru'r cyfle.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu unrhyw newyddion am swyddi yn ystod cyfnod economaidd anodd.

'Siomedig'

"Ond mae'r newyddion yn siomedig i Gymru am na lwyddon ni i gael y buddsoddiad hwn."

Roedd Llywodraeth Cymru, meddai, wedi ceisio eu gorau i ddenu'r ffatri i Gymru ond yn y pen draw, roedd hwn yn benderfyniad masnachol gan Jaguar Land Rover yr oedd eu pencadlys yng Nghanolbarth Lloegr.

Mae gan y cwmni ffatrïoedd eisoes yn Solihull a Castle Bromwich, ger Birmingham.

Dywedodd Tim Williams, Prif Weithredwr Fforwm Cerbydau Modur Cymru, y gallai'r ffaith fod Wolverhampton yn ardal fentergarwch fod wedi effeithio ar y penderfyniad.



HEFYD
Hwb o £3m i ffatri geir
21 Awst 09 |  Newyddion
Ford: Newidiadau dros dro
29 Hyd 08 |  Newyddion
Ford: Gwerthu yn 'diogelu swyddi'
26 Maw 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific