Mae'r gweinidog yn dweud ei bod eisiau gwella ansawdd y gofal i famau a'u babanod
|
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Fe lansiodd Lesley Griffiths ddogfen "Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru" yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ddydd Llun. Mae'r gweinidog wedi rhybuddio bod rhaid i'r gwasanaeth newid. "Ni all Byrddau Iechyd Lleol ganiatáu i'r gwasanaeth ddirywio'n wasanaeth anniogel ac anghynaladwy a dyna allai ddigwydd heb newid," meddai. "Y byrddau iechyd fydd yn penderfynu sut i drefnu eu gwasanaethau'n lleol er mwyn cyflawni'r weledigaeth, ac rwy'n disgwyl iddyn nhw fod yn agored ac i weithio gyda'u cymunedau wrth gynllunio newidiadau. Blaenoriaethau "Mae'n hanfodol bod diogelwch, ansawdd, recriwtio a chost yn ganolog i unrhyw newidiadau." Mae'r strategaeth yn gosod tair blaenoriaeth: - Trefnu gofal sy'n ateb anghenion y fam a'i babi;
- Diogelu a gwella iechyd a lles y fam a'i babi;
- Gofalu bod y beichiogrwydd a'r geni'n brofiad diogel sy'n ysbrydoli ac yn cyfoethogi bywyd.
"Mae lle eisoes gennym i fod yn falch o'n gwasanaeth mamolaeth ond mae lle hefyd i wella," meddai'r gweinidog. "Rwyf am i bob menyw yng Nghymru gael gwasanaeth diogel o'r radd flaenaf, waeth ble mae hi'n byw, beth yw ei chefndir cymdeithasol na beth yw ei thras ethnig." Mae'r strategaeth yn sôn am hybu arferion byw iach, cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth. Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Darren Millar AC: "Dyw addewid y Gweinidog ddim yn cynnwys sicrhau y bydd gwasanaethau mamolaeth ymgynghorol yn aros yn ysbytai gogledd Cymru. "Bydd hyn yn siom i famau beichiog a theuluoedd sy'n dibynnu ar wasanaethau eu huned mamolaeth leol."
|