British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 18 Medi 2011, 05:32 GMT 06:32 UK
Buddugoliaeth gyntaf i Gymru

Shane Williams
Shane Williams yn sgorio cais Cymru

Mae Cymru wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghwpan y Byd drwy guro Samoa yn Hamilton.

Ond roedd y fuddugoliaeth yn un nerfus dros ben i'r cefnogwyr gyda Samoa'n mynd ar y blaen am gyfnodau hir.

Roedd h'n ymddangos y byddai dwy gic gosb gan James Hook yn ddigon i roi Cymru ar y blaen ar yr egwyl tan i Samoa sgorio cais gyda symudiad olaf yr hanner cyntaf,

Troswyd y cais i adael gŵyr Mor y De ar y blaen o 10 i 6 ar hanner amser.

Anafiadau

Roedd Cymru wedi dioddef o anafiadau gyda Dan Lydiate yn gorfod gadael y cae yn fuan yn y gêm, ac ni ddaeth James Hook allan am yr ail hanner yn dilyn anaf i'w ysgwydd.

Roedd hynny'n golygu fod y dyletswyddau cicio yn trosglwyddo i Rhys Priestland, ac fe roddodd e Gymru yn ôl ar y blaen gyda dwy gic gosb.

Ond y foment a sicrhaodd y fuddugoliaeth oedd cais cynta'r crysau cochion. Nid am y tro cyntaf, Shane Williams oedd yr arwr.

Yr eilydd ddaeth i'r maes yn lle Hook - Leigh Halfpenny - lwyddodd i dorri drwy amddiffyn Samoa, ac roedd Williams wrth law i groesi yn y gornel.

Methodd Priestland y trosiad, ac roedd Samoa felly yn dal o fewn un trosgais i ddod yn gyfartal.

Doedd hynny ddim yn ddigon i ladd y gêm felly, ac er iddyn nhw orfod chwarae eu hail gêm o fewn pum niwrnod, roedd Samoa'n dal yn gryf tua diwedd yr wythdeg munud.

Rhyddhad

Fe fyddai colli'r gêm wedi golygu y byddai'n debygol iawn y byddai Cymru allan o'r gystadleuaeth cyn rownd yr wyth olaf. Mae Samoa wedi rhoi Cymru allan o Gwpan y Byd ddwywaith o'r blaen - yn 1991 a 1999.

Ond roedd gwaith amddiffynnol Cymru yn ddigon da i ddal eu gafael ar y fantais.

Wedi'r syndod o weld Iwerddon yn curo Awstralia ddydd Sadwrn, mae'n debyg mai'r Gwyddelod fydd gwrthwynebwyr Cymru yn rownd yr wyth olaf.

Pan giciodd Rhys Priestland y bel dros yr ystlys i ddod â'r gêm i ben, roedd yr ochenaid o ryddhad yn un anferth i dîm Warren Gatland.

Trydydd

Er mwyn sicrhau eu lle yn yr wyth olaf, mae angen buddugoliaethau yn erbyn Namibia a Fiji eto.

Maen nhw'n dal yn drydydd yn y grŵp ar hyn o bryd gan i Samoa gipio dau bwynt bonws yn eu gemau nhw.

Ond mae disgwyl i Dde Affrica guro Samoa, tra bod disgwyl i Gymru ennill y ddwy gêm sydd ganddyn nhw'n weddill.

Dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland y bydd yn rhaid aros i weld pa mor ddifrifol yw'r anafiadau i Hook a Lydiate.

"Mae Dan Lydiate wedi troi ei bigwrn. Roeddwn yn gweld ei eisiau yn yr amddiffyn," meddai Gatland.

"Dyw e methu rhoi pwysau er ei bigwrn ar hyn o bryd felly bydd yn rhaid i ni asesu'r sefyllfa dros y 24-48 awr nesa."

Mae James Hook wedi cael anaf i'w ysgwydd.

"Gwnaed y penderfyniad cywir ar yr egwyl. Doedd James ddim yn gallu parhau yn y gêm, ond o ran pa mor ddrwg yw'r anaf ....mae'n anodd dweud ar hyn o bryd."

Cymru 17 - 10 Samoa.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific