British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 18 Medi 2011, 09:31 GMT 10:31 UK
Cofio'r glowyr a gollwyd

Gwasanaeth eglwys
Gwasanaeth eglwys yn Resolfen

Bu gwasanaethau crefyddol ledled Cymru ddydd Sul yn cofio'r pedwar glöwr fu farw ar ôl damwain ym mhwll glo Gleision ger Pontardawe.

Cafwyd hyd i gyrff Phillip Hill, 45, o Gastell-nedd, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, (y tri o Gwm Tawe) ddydd Gwener.

Roedd yna wasanaeth er cof am y glowyr yn Eglwys y Plwyf, Cilybebyll.

Yn Resolfen, cartref un o'r glowyr, roeddyna wasanaeth yn Eglwys Dewi Sant.

Dywedodd y parchedig Peter Lewis, ficer Plwyf Cwm Nedd fod y digwyddiad wedi bwrw'r cwm.

"Mae llawer o bobl sydd â chysylltiadau gyda'r diwydiant yn cofio nôl i ddamweiniau a digwyddiadau pan oeddynt yn ifanc.

"Mae pobl am roi cysur a chymorth i'r teuluoedd a hefyd i'r gweithwyr achub."

Ffenestr y neaudd yr eglwys yn Resolfen
Ffenestr y neaudd yr eglwys yn Resolfen

Mae pobl leol wedi bod yn mynd i neuadd yr eglwys Resolfen er mwyn golau cannwyll neu weddïo, meddai.

Cydymdeimlo

Cafodd blodau a negeseuon eu gadel ger safle'r ddamwain.

Ymhlith y rhain oedd cerdyn gan ferch Mr Hill, Kyla.

"Dad, rwy'n dy garu di a byddai'n dy golli."

Dywedodd neges arall: "Diolch am fod yn rhan mor fawr o'n bywydau."

Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, fod y ddamwain wedi cael effaith ar Gymru gyfan.

Fe wnaeth yr Archesgob, sy'n fab i löwr , ddweud fod cymunedau glofaol ledled y byd yn cydymdeimlo.

"Bydd eglwysi ar hyd a lled Cymru yn gweddïo drostynt ddydd Sul a dwi'n sicr y bydd pobl yn parhau i gynnig cymorth i'r teuluoedd."

Blodau
Pobl leol yn gosod blodau ar y ymyl y ffordd sy'n arwain i'r pwll

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.15 am ddydd Iau ar ôl i ddwr lifo i'r pwll

Roedd saith o lowyr yn gweithio yn y pwll a llwyddodd tri i ddianc.

Ddydd Gwener daeth y newyddion trist fod timau achub wedi dod o hyd i bedwar corff.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y bydd yna ymchwiliad swyddogol i'r ddamwain.

Heddlu'r De fydd yn arwain yr ymchwiliad, gan drosglwyddo'r awenau i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch maes o law.

Dywedodd Mrs Gillan: "Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi a darganfod beth yn union ddigwyddodd."

Ddydd Sadwrn cyhoeddwyd bod cronfa wedi ei sefydlu yn lleol i godi arian ar gyfer teuluoedd y pedwar.

Erbyn bore Sul roedd y gronfa wedi derbyn £20,000.

Mae'r Tywysog Charles wedi dweud y bydd e'n noddwr brenhinol i'r elusen.

Dywedodd yr aelod seneddol lleol Peter Hain fod yna deimladau cryf o fewn y gymuned y dylid gwneud rhywbeth i gefnogi'r teuluoedd.

"Dyna pam bod nifer o bobl wedi dod ynghyd a sefydlu cronfa apêl i'r glowyr," meddai.



HEFYD
Glowyr: Darganfod pedwerydd corff
16 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Deifwyr yn gorfod troi'n l
16 Medi 11 |  Newyddion
Pedwar yn sownd dan ddaear
15 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific