British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2011, 17:44 GMT 18:44 UK
Glowyr: Darganfod pedwerydd corff

Timau achub ym Mhwll Gleision

Mae timau achub oedd yn ceisio canfod pedwar dyn gafodd eu dal yn sownd mewn pwll glo ger Pontardawe wedi dod o hyd i bedwerydd corff.

Lai na 48 awr wedi i'r newyddion dorri - mi ddaeth yr ergyd waethaf, olaf i deuluoedd y pedwar.

Am 6pm nos Wener dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan, fod y timau achub wedi canfod y pedwerydd corff yn ystod y prynhawn.

Y pedwar a fu farw oedd Phillip Hill, 45, o Gastell-nedd, Charles Breslin (62), David Powell (50) a Garry Jenkins (39) i gyd o Gwm Tawe.

Preifatrwydd

Dywedodd Mr Vaughan fod cyrff y pedwar dyn wedi eu cludo o bwll y Gleision ger Cilybebyll ond nad oedd y cyrff wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yma.

Roedd teuluoedd a ffrindiau'r glowyr wedi ymgynnull yng nghanolfan Rhos gerllaw.

Bu'r timau achub yn gweithio drwy'r nos i geisio cyrraedd y pedwar.

Dywedodd Mr Vaughan fod y teuluoedd wedi gofyn i bobl barchu eu preifatrwydd.

Ychwanegodd: "Mae Heddlu De Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi lansio ymchwiliad i'r ddamwain."

Llwyddodd y timau achub i gyrraedd y corff cyntaf yn gynnar fore Gwener.

Cafodd yr ail gorff ei ganfod tua 12.15pm a'r trydydd corff tua 3pm.

'Anghywir'

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Richard Smith, fod y corff cyntaf wedi ei ganfod ar waelod y brif siafft.

Ychwanegodd fod y tri chorff arall wedi cael eu canfod yn agos i'w gilydd yn agos i'r lle yr oeddent yn gweithio.

"Mae'n rhy gynnar i ddweud a oedd unrhyw siawns o bara'n fyw yn dilyn y ddamwain," meddai Mr Smith.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Rydyn ni wedi derbyn y newyddion yr oedden ni i gyd yn ofni.

"Ro'n ni'n meddwl bod y dyddiau o ddamweiniau glo yn ne Cymru ar ben ond ro'n ni'n anghywir.

"Dwi ddim yn credu y gallai'r timau achub wedi gwneud mwy i geisio achub y glowyr ac mae ein meddyliau ni gyda'r teuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid.

"Mae'n rhaid inni adael iddynt alaru nawr."

Y gobaith oedd y byddai'r glowyr - oedd wedi eu dal 90 metr o dan ddaear - wedi medru dod o hyd i boced o aer wedi i'r pwll lenwi gyda dŵr pan chwalodd un o furiau mewnol y gwaith.

Mae pumed glöwr yn cael triniaeth yn yr ysbyty wedi iddo ddianc o'r pwll wrth i'r dŵr lifo i mewn bore Iau.

Llwyddodd dau ddyn arall i ddianc yn holliach, ac roedden nhw wedi cynorthwyo'r timau achub.



HEFYD
Glowyr: Darganfod pedwerydd corff
16 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Carwyn Jones yn ymweld
16 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Deifwyr yn gorfod troi'n ôl
16 Medi 11 |  Newyddion
Pedwar yn sownd dan ddaear
15 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific