British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 17 Medi 2011, 16:19 GMT 17:19 UK
Abertawe 3-0 West Brom

Stephen Caulker
Mae Stephen Caulker wedi ei anafu

Mae Abertawe wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn yr Uwchgynghrair.

Ac ar ôl methu a sgorio mewn pedair gem, llwyddodd yr Elyrch i rwydo tair gwaith yn erbyn West Brom.

Scott Sinclair sgoriodd y gol gyntaf gyda chic gosb.

Daeth yr ail o ben Leroy Lita, gyda Nathan Dyer yn sgorio'r drydedd.

Ond roedd yna newyddion drwg i'r Elyrch gydag anaf cas i Neil Taylor.

Bu'n rhaid iddo gael ei gario o'r maes ar ôl cael ocsigen.

Cafodd y chwarae ei atal am 9 munud.

Cyn y gêm bu munud o dawelwch er cof am y pedwar glowr a fu farw yng Nghwm Tawe.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific