British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2011, 10:29 GMT 11:29 UK
Dyn wedi ei gyhuddo o yrru cerbyd ar Yr Wyddfa

Y cerbyd ar Yr Wyddfa
Fe ddaethpwyd o hyd i'r cerbyd ger copa'r Wyddfa

Mae dyn 39 oed wedi ei gyhuddo o yrru'n beryglus ar ôl gyrru ei gerbyd i fyny'r Wyddfa ddechrau'r mis.

Roedd Craig Williams o Cheltenham yn ymddangos gerbron Ynadon Caernarfon am y tro cyntaf ddydd Gwener.

Roedd o eisoes yn wynebu cyhuddiad o yrru cerbyd ar dir comin, rhostir neu dir oddi ar y ffordd fawr.

Dywedodd Tom Morgan Jones ar ran yr erlyniad fod yna gyhuddiad ychwanegol oherwydd "ein bod yn credu fod perygl gwirioneddol i unigolion a risg i eiddo, yn enwedig y rheilffordd."

Cafodd yr achos ei ohirio am dair wythnos.

Clywodd y llys fod Mr Williams wedi gyrru cerbyd Vauxhall Frontera o fewn 200 metr i gopa'r Wyddfa ar Fedi 3.



HEFYD
Car i lawr o gopa'r Wyddfa
08 Medi 11 |  Newyddion
Cyhuddo dyn o yrru ar Yr Wyddfa
05 Medi 11 |  Newyddion
Dirgelwch car Yr Wyddfa
04 Medi 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific