British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2011, 10:29 GMT 11:29 UK
Glowyr: Carwyn Jones yn ymweld

Carwyn Jones

Bu prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, yng Nghilybebyll fore Gwener i ymweld â theuluoedd y glowyr sy'n sownd ym mhwll glo'r Gleision.

Aeth Mr Jones i Ganolfan Gymunedol y Rhos i siarad gyda'r teuluoedd cyn mynd ymlaen i safle'r pwll.

Mae timau achub wedi bod yno ers dros 24 awr yn ceisio achub dynion gafodd eu dal yn y pwll ddydd Iau.

Eisoes mae'r timau wedi canfod tri chorff.

'Dewrder aruthrol'

Dywedodd Mr Jones: "Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn i'r rhai fu'n gweddïo a gwylio wrth i'r gwasanaethau brys barhau gyda'r ymgyrch achub dewr yng Nghwm Tawe.

Roedd Mr Jones yn siarad ar ôl i'r corff cyntaf gael ei ddarganfod.

"Rwyf wedi cwrdd gyda'r teuluoedd y bore 'ma, ac maen nhw'n dangos dewrder aruthrol er eu bod o dan straen ofnadwy.

"Maen nhw'n cael cefnogaeth ardderchog gan eu teuluoedd, cyfeillion a swyddogion arbennig.

"Mae gen i gysylltiadau teuluol cryf gyda'r ardal hon, ac rwy'n ymwybodol o'r ysbryd cymunedol anhygoel.

"Mae hyn wedi cynorthwyo i siapio'n bywydau ni, a'n penderfyniad i oroesi cyfnodau anodd iawn fel hwn."

Bu Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan hefyd yn ymweld â'r safle a'r ymdrech achub.

Dywedodd fod y Prif Weinidog David Cameron wedi cysylltu â hi ynglyn â'r sefyllfa diweddara wrth iddo deithio yn ôl o Libya.



HEFYD
Glowyr: Darganfod trydydd corff
16 Medi 11 |  Newyddion
Glowyr: Deifwyr yn gorfod troi'n ôl
16 Medi 11 |  Newyddion
Pedwar yn sownd dan ddaear
15 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific