British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2011, 05:07 GMT 06:07 UK
Beirniadu cyngor

g
Dywedodd y cyngor fod defnyddio ymgynghorwyr ar gyfer prosiectau mawr yn arbed arian

Mae cynghorwyr wedi beirniadu cabinet Cyngor Powys gan ddweud fod y ffioedd ymgynghori wedi cynyddu dros £6m yn ystod yr 11 blynedd diwethaf.

Mae grŵp Ceidwadol y cyngor yn honni bod y gost o dalu ymgynghorwyr yn £6.1m y llynedd o'i gymharu â £86,348 ym 1999.

Maen nhw'n dweud fod y cynnydd yn un "dramatig" yn ystod cyfnod o doriadau.

Dywedodd Cyngor Powys fod defnyddio ymgynghorwyr ar gyfer prosiectau mawr yn arbed arian.

Mae bil ymgynghorol y Cyngor gymaint â'r swm mae'r cyngor yn gwario ar bob chweched dosbarth yn y Sir
Aled Roberts

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod ymgynghorwyr yn rheoli prosiectau nad oedd y cyngor yn "gallu eu rheoli'n fewnol" gan gynnwys adeiladu ysgolion a ffyrdd.

Ychwanegodd y llefarydd na fyddai rhai o'r prosiectau hyn wedi dod i'r fei pe na bai'r ymgynghorwyr wedi gwneud y gwaith.

'Toriadau'

Clymblaid rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Chynghrair Annibynnol Powys sy'n rheoli'r cyngor

Dywedodd cyd-arweinydd y grŵp Ceidwadol, y Cynghorydd Aled Roberts:

"Mae bil ymgynghorol y Cyngor gymaint â'r swm mae'r cyngor yn gwario ar bob chweched dosbarth yn y Sir."

Mae'r ymgynghorwyr, Capita, yn rhan o gynllun gwerth £36m y cyngor i adeiladu pedair ysgol gynradd ac adnewyddu ysgol uwchradd yn ardal Ystradgynlais.

Mae'r cyngor yn defnyddio system cytundeb fframwaith, sef modd o ffurfio cytundebau gyda chontractwyr ar gyfer prosiectau unigol.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer cyllid fod y cytundeb fframwaith yn arbed arian gan sicrhau bod adnoddau prin y cyngor yn "targedu'n meysydd arbenigol".

Ychwanegodd Mr Thomas: "Rydyn ni'n defnyddio nifer o gytundebau fframwaith gyda chontractwyr gwahanol i ddarparu prosiectau adeiladu a dylunio pan fo angen.

"Felly mae cyfran uchel o'n gwariant ymgynghorol yn mynd ar dalu'n contractwyr fframwaith."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific