British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2011, 08:50 GMT 09:50 UK
Ombwdsmon yn beirniadu Bwrdd Iechyd

Peter Tyndall, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae adroddiad Peter Tyndall yn beirniadu'r bwrdd iechyd

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu Bwrdd Iechyd am fod staff wedi "methu â gweithredu mewn modd priodol" cyn i fenyw farw yn Ysbyty Ystrad Mynach ym mis Chwefror 2009.

Daw'r feirniadaeth mewn adroddiad ynglyn â chwyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan gan deulu Yvonne Furber, 58 oed.

Dywed yr Ombwdsmon Peter Tyndal fod Ms Furber wedi mynd i Ysbyty Ystrad Mynach i gael ei hasesu ar ôl i'w hiechyd meddwl ddirywio.

Dywed y teulu fod Ms Furber wedi cael safon ofal wael iawn ac i hynny arwain at ddirywiad yn ei chyflwr corfforol a meddyliol gan gyfrannu, yn y pendraw, at ei marwolaeth.

Dywed y teulu i'r ysbyty anwybyddu cais am ymyrraeth feddygol.

Roedd hyn er gwaethaf arwyddion fod y claf yn dioddef o Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT).

Cyfathrebu

Roedd y teulu hefyd yn feirniadol o ddulliau cyfathrebu'r ysbyty.

Dywedodd adroddiad gan yr Ombwdsman, Peter Tyndall: "Roedd y drefn ar gyfer canfod DVT ynghynt ... yn ddiffygiol.

Dywed yr adroddiad fod yr ysbyty heb geisio sicrhau bod meddyg wrth law "na rhoi rhesymau digonol pam nad oedd modd cael gwasanaeth meddyg yn ystod y penwythnos.

"Roedd y drefn o gadw cofnodion, yn gyffredinol, ysbyty yn eithriadol o wael."

Mae Mr Tyndall wedi argymell y dylai'r Bwrdd Iechyd gymryd camau i newid y drefn bresennol.

Yn ogystal mae'r Ombwdsmon wedi datgan y dylai'r bwrdd iechyd wella ymwybyddiaeth ei staff o DVT.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn ymddiheuro i'r teulu am yr hyn a ddigwyddodd a'u bod yn derbyn argymhellion yr adroddiad.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific