Roedd y tri AS wedi cynnig gwelliant fyddai'n golygu na fyddai'r mesur yn effeithio ar S4C
|
Mae cais tri Aelod Seneddol o Gymru i gyfyngu ar bwerau gweinidogion i newid strwythur S4C wedi methu. Roedd Hywel Williams o Blaid Cymru, Susan Elan Jones o'r Blaid Lafur a Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol ar Bwyllgor Tŷ'r Cyffredin oedd yn edrych yn fanwl ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Ac roedd y tri wedi cynnig gwelliant fyddai'n golygu na fyddai'r mesur yn effeithio ar S4C. Y bleidlais oedd 10-9 yn erbyn y gwelliant. Hebrwng Fe gafodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith ei hebrwng o'r oriel gyhoeddus wedi i ganlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi. Dywedodd Hywel Williams AS: "Dwi'n siomedig iawn oherwydd dyw'r llywodraeth ddim wedi gwrando ar ein dadleuon rhesymol. "Mi fyddwn yn cynnig mwy o welliannau fydd yn ymwneud â statws S4C fel corff cyhoeddus a'i hannibyniaeth. "Does dim synnwyr yn y ffaith fod y llywodraeth ar frys i benderfynu ynghylch S4C pan fydd Mesur Cyfathrebu'n fuan." 'Gwthio trwyddo' Dywedodd Ms Williams: "Er gwaetha'r consensws eang yng Nghymru sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau hyn, mae pleidleisiau ASau o Loegr wedi llwyddo i wthio'r cynlluniau trwyddo," meddai. "Mae democratiaeth Brydeinig wedi ein bradychu. "Rydym wedi ymgyrchu dros S4C newydd o'r dechrau felly yr her i'r sianel a'r sawl sy'n gweithio iddi yw sefyll i fyny ac ymladd dros ei dyfodol." O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei hariannu gan y BBC yn rhannol o'r drwydded deledu. Ymateb "Mae S4C yn mynegi syndod a siom fod y Llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw wedi datgan y byddau sicrhau annibyniaeth weithredol i S4C yn golygu cyfaddawdu atebolrwydd y BBC dros arian ffi'r drwydded. "Nid ydym yn credu mai dyma'r sefyllfa ac rydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda'r BBC i sicrhau fod y trefniadau newydd yn cydnabod egwyddorion annibyniaeth S4C ac atebolrwydd y BBC am arian ffi'r drwydded. "Rydym hefyd yn pryderu fod geiriad cytundeb y Llywodraeth gyda'r BBC yn datgan mai'r BBC fydd yn penderfynu cyllideb S4C ar ôl 2015. Ar yr un diwrnod pasiwyd gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin yn datgan mai'r Ysgrifennydd Gwladol fydd yn sicrhau fod S4C yn cael digon o gyllideb i gwrdd â'r gost o ddarparu eu gwasanaethau teledu. "Mae'r gwrthddweud hyn yn peri gofid. "O'u cymryd gyda'i gilydd mae'r datblygiadau yn ymddangos fel newid sylfaenol yng nghyfrifoldeb y Llywodraeth dros ddarlledu yn yr iaith Gymraeg wedi ei gyflenwi gan Awdurdod Cymraeg Annibynnol." 25% Ym mis Mehefin fe ddywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud "ar fyrder". Mae S4C yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb. Yn y cyfamser, mae'r trafodaethau rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC yn parhau ynglŷn â sut y gellid cydweithio.
|