British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Medi 2011, 10:35 GMT 11:35 UK
Canfod twll mawr ger ysgol

Y twll yn Rhes-y-cae (llun: Ben Robertson)
Ymddangosodd y twll ger Rhes-y-Cae ar ddydd Sul

Mae twll tua 40 troedfedd (12m) wedi ei ganfod ar dir yn agos i ysgol gynradd yn Sir y Fflint.

Blwyddyn ddiwethaf, cafwyd hyd i dwll 23 troedfedd (7m) ar yr un safle ger Ysgol Rhes-y-Cae ar Fynydd Helygain.

Cafodd ei lenwi ond mae twll bron ddwywaith ei faint wedi ymddangos.

Mae'r ysgol wedi gofyn i rieni a phlant gadw dra o'r safle.

Mae perchnogion y tir, Ystâd Grosvenor, wedi gosod ffens o amgylch y twll ac yn monitro'r safle wrth i arbenigwyr ymchwilio.

"Gallai erydiad neu dywydd gwael fod yn ffactorau sy'n cyfrannu ond mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i allu dweud os taw rhywbeth penodol sydd wedi achosi i'r twll achor ymhellach," meddai datganiad ar ran y cwmni.

Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod y twll wedi ei orchuddio â chap concrit pwrpasol ers mis Awst 2010.

Dywedodd cynghorydd Helygain Colin Legg fod yna hen dyllau mwyngloddio yn yr ardal.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific