British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Medi 2011, 07:11 GMT 08:11 UK
Cyngor: Gweinidog yn siomedig

Carl Sargeant AC
Mae Carl Sargeant AC yn feirniadol o gynghorau

Dywed Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru ei fod yn 'hynod siomedig' fod cyngor sir wedi gwrthod arbed arian drwy rannu swydd prif weithredwr gydag awdurdod arall.

Yn ôl Carl Sargeant does ganddo ddim yr hawl i orfodi Cyngor Conwy i newid eu meddwl.

Fe wnaeth cyn brif weithredwr yr awdurdod Byron Davies ymddiswyddo ym Mehefin, a phenderfynodd y sir yng Ngorffennaf i benodi prif weithredwr arall yn ei le.

Mae disgwyl i'r penodiad gael ei wneud ddiwedd Medi.

Mae Mr Sargeant wedi dweud ei fod am i gynghorau arbed arian drwy rannu gwasanaethau a swyddi prif swyddogion.

Arbed arian

Mewn llythyr gafodd ei anfon at drethdalwr lleol yn Sir Conwy, dywed swyddfa Mr Sargeant nad oedd y gweinidog yn hapus gyda phenderfyniad Cyngor Conwy i benodi prif weithredwr.

"Mae'r Gweinidog wedi ei gwneud hi'n glir y dylai awdurdodau ymdrechu'n galetach i rannu swyddi uwch swyddogion mewn ymdrech i arbed arian a hybu mwy o gydweithio," meddai'r llythyr.

"Fe roddwyd yr opsiwn o rannu swydd (y prif weithredwr) i'r cyngor ond cafodd yr opsiwn ei wrthod."

Dywed y llythyr fod y Gweinidog wedi datgan ei siom i'r cyngor gan ddweud nad oedd ganddo'r grym i newid y penderfyniad.

Yng Ngorffennaf dywedodd Mr Sargeant y byddai'n deddfu neu greu rheoliadau i sicrhau bod cynghorau lleol yn cyd-weithio.

Dywedodd y Gweinidog na fyddai'n ad-drefnu llywodraeth leol yn llwyr, am y byddai hynny'n gostus ac yn cymryd gormod o amser.

Dywedodd y Gweinidog na fyddai'n ad-drefnu llywodraeth leol yn llwyr, am y byddai hynny'n gostus ac yn cymryd gormod o amser.

Mae 22 o gynghorau lleol yng Nghymru yn dilyn ad-drefnu yn 1996.



HEFYD
Lleihau nifer y cynghorau lleol?
19 Meh 11 |  Newyddion
Maniffesto 5 mlynedd i gynghorau
30 Maw 11 |  Newyddion
Cynghorau: Newidiadau mawr?
29 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific