British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Medi 2011, 15:58 GMT 16:58 UK
Swyddi dosbarthu yn y fantol

Ty Gelert ym Mhorthmadog
Mae safle dosbarthu Gelert ym Mhorthmadog

Mae cwmni cynhyrchu a gwerthu offer awyr agored a sefydlwyd 35 mlynedd yn ôl yn bwriadu cau eu safle dosbarthu yng Ngwynedd.

Dywedodd cwmni Gelert, sy'n cyflenwi siopau ar draws y DU, nad oedd eu safle ym Mhorthmadog "yn ddigon mawr i wasanaethu gofynion ein cwsmeriaid."

Mae'r cwmni'n bwriadu cadw rhai swyddfeydd yn Nhŷ Gelert ar Barc Busnes Penamser yn y dref a'u holl siopau yn y gogledd.

Yn y DU mae'r cwmni'n cyflogi 178 o bobl ac mae ganddyn nhw ganolfan ddosbarthu arall yn Widnes.

Ymgynghori

Mae 80 o'r staff yn gweithio yn y pencadlys ym Mhorthmadog ond mae'n aneglur ar hyn o bryd faint o'r 80 sy'n gweithio ar yr ochr ddosbarthu ym Mhorthmadog.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni Gelert, Mick Welden: "Bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd dros yr wythnosau nesaf a fydd yn cael effaith ar gydweithwyr a chyfeillion.

"Rydym yn rhagweld y bydd unrhyw newidiadau yn digwydd yn agosach at ddiwedd y flwyddyn wedi proses ymgynghori priodol."

'Cyflogwr pwysig'

Dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai'n gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau dyfodol y cwmni yn yr ardal.

Dywedodd arweinydd yr awdurdod, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Mae Gelert yn gyflogwr pwysig yn ardal Porthmadog a byddwn fel cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod dyfodol y cwmni yn yr ardal.

"Mae'r hinsawdd economaidd heriol wedi cael effaith sylweddol ar brif gytundebwyr Gelert, sy'n cynnwys nifer o gwmnïau manwerthu Prydeinig y stryd fawr, ac mae hyn yn ei dro wedi effeithio ar archebion y cwmni.

"Mae'r cyngor mewn trafodaethau gyda'r cwmni ac rydym yn ceisio eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn."



HEFYD
Cwmni yn creu 50 o swyddi
10 Chwef 10 |  Newyddion
Gwesty: Creu 20 o swyddi
19 Meh 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific