British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Medi 2011, 10:46 GMT 11:46 UK
Corwen yn dathlu Dydd Owain Glyndwr

Cerflun Owain Glyndŵr
Mae cerflun o Owain Glyndŵr yng nghanol tref Corwen

Dros 600 mlynedd ar ôl i Owain Glyndŵr fyw yn yr ardal o amgylch Corwen, mae pobl leol heddiw yn dod ynghyd i ddathlu ei fywyd.

Cynhelir Dydd Owain Glyndŵr yng Nghorwen ar ddydd Gwener 16 Medi.

Mae'r dyddiad yn nodi cychwyn gwrthryfel Owain Glyndŵr pan gododd ei faner yn erbyn coron Lloegr a choronwyd ef yn Dywysog Cymru.

Dywedodd Cadeirydd pwyllgor Dydd Owain Glyndŵr, Edwin Jones: "Roedd gan Owain Glyndŵr gysylltiad cryf â'r ardal hon.

"Mae Dydd Owain Glyndŵr yn gyfle i bobl sydd yn byw yma ac ymwelwyr â'r ardal ddod at ei gilydd er mwyn dathlu a chodi proffil un o arwyr Cymru."

Hanes a diwylliant

Mae'r trefnwyr yn gobeithio bydd rhaglen Dydd Owain Glyndŵr eleni yn dod â phobl i Gorwen er mwyn iddynt ddysgu mwy am hanes a diwylliant yr ardal.

Ymhlith y gweithgareddau bydd lansiad bws cymunedol newydd am 11am yn y Ganolfan Blas ar Fyw.

Bydd cyfle i bobl deithio ar y bws yn hwyrach yn y pnawn gan fwynhau taith hanesyddol o amgylch Corwen gan orffen yn Neuadd Goffa Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy.

Dywedodd Allen Baines, arweinydd y daith a hanesydd lleol:

"Dwi'n meddwl bod yr atgofion am Glyndŵr yn gryf iawn yn yr ardal oherwydd bod gymaint o lefydd sydd yn gysylltiedig ag ef.

"Mae Dydd Owain Glyndŵr yn rhoi Corwen ar y map ac yn denu ymwelwyr i'r dref.

"Rydym eisiau i bobl wybod am y dathliadau a theimlo bod yna groeso cynnes iddynt ymuno yn y gweithgareddau."

Gweithgareddau

Yn ogystal â'r daith bydd nifer o weithgareddau eraill drwy'r diwrnod gan gynnwys perfformiad gan Drymwyr Cambria, sesiynau dawnsio gwerin a darlith goffa flynyddol Syr R. Rees Davies.

Bydd gweithgareddau'n parhau gyda'r nos yn Nhafarn y Delyn gyda gornest limrigau lol a cherddoriaeth gan y band gwerin, Pentennyn.

Mae angen tocynnau ar gyfer y daith a'r ddarlith, er mwyn sicrhau lle neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Siân Parry ar 01824 705677.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific