British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 15 Medi 2011, 12:09 GMT 13:09 UK
Ail archfarchnad i dre farchnad

Castell Newydd Emlyn
Mae'r cais i godi ail archfarchnad yn ddadleuol

Mae cynghorwyr sir wedi penderfynu o blaid rhoi caniatâd i gais dadleuol i godi ail archfarchnad mewn tre farchnad yn y gorllewin.

Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno yn 2009.

Ym mis Ebrill y llynedd caniatawyd cais cwmni Lidl i godi archfarchnad ar gyrion Castell Newydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin.

Ddydd Mercher penderfynodd cynghorwyr o blaid caniatáu codi archfarchnad arall - ger safle Ceir Cawdor yng nghanol y dre.

Yn ôl Kevin Davies, perchennog Ceir Cawdor, fe fydd y datblygiad yn golygu mwy o swyddi i'r ardal.

Yn poeni

Ond mae perchnogion siopau lleol wedi dweud eu bod yn poeni am effaith ail archfarchnad ar fusnesau bychain, yn enwedig y rhai ar yr heol fawr.

Mae nifer hefyd wedi dweud y byddai'r cynllun yn achosi problemau traffig.

Roedd Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn yn gwrthwynebu'r cynllun fydd yn golygu adeilad 1,426 o fetrau sgwâr a maes parcio i fwy na 100 o geir.

Ym mis Gorffennaf 2009 fe gafodd deiseb ag arni dros 700 o enwau ei chyflwyno i gynghorwyr sir yn gwrthwynebu'r cynllun.

Roedd swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell rhoi caniatâd i'r cynllun ond gyda nifer o amodau.



HEFYD
Cyngor: 'Ie' i archfarchnad
01 Ebr 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific