British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Medi 2011, 09:30 GMT 10:30 UK
Diweithdra'n cynyddu yng Nghymru

Canolfan Waith
Yng Nghymru mae canran ddiweithdra yn 8.4%

Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi cynyddu, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau fod 122,000 o bobl Cymru'n ddi-waith.

Mae hyn yn godiad o 7,000 yn ystod y tri mis hyd at fis Gorffennaf eleni.

Yng Nghymru mae canran ddiweithdra yn 8.4%, o'i chymharu â 7.9% yng ngweddill y DU.

'Gwarchod swyddi'

Ar draws Prydain roedd yna gynnydd o 80,000 yn nifer y di-waith yn y tri mis hyd at Orffennaf.

Mae hynny'n golygu bod dros 2,500,000 o bobl heb waith.

Dyma'r cynnydd mwyaf yn y niferoedd yn y DU ers dwy flynedd.

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: "Mae'r ffigyrau siomedig hyn yn dangos bod economi Cymru dal yn fregus a bod hyn yn amser anodd a heriol i fusnesau.

"Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r ffordd orau i gefnogi busnesau yng Nghymru i'w galluogi i warchod swyddi Cymreig a cheisio creu swyddi newydd."



HEFYD
Diweithdra wedi gostwng
13 Gorff 11 |  Newyddion
77,000 yn hawlio budd-dal
10 Meh 11 |  Newyddion
Diweithdra wedi codi yng Nghymru
13 Ebr 11 |  Newyddion
2,000 yn fwy'n ddi-waith
16 Maw 11 |  Newyddion
Diweithdra wedi codi yng Nghymru
16 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific