British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Medi 2011, 09:55 GMT 10:55 UK
Taith Prydain yn cyrraedd Cymru

Geraint Thomas
Mae'r Cymro, Geraint Thomas, yn drydydd yn dilyn trydydd cymal y ras

Mae ras feicio Taith Prydain wedi dychwelyd i Gymru eto eleni gan ddenu rhai o feicwyr gorau'r byd.

Dechreuodd pedwerydd cymal y ras feicio, sef y cymal castell i gastell, yn dechrau wrth Gastell Powys, y Trallwng, ddydd Mercher am 10.15am.

Mae'r Cymro, Geraint Thomas, yn drydydd yn dilyn trydydd cymal y ras a gafodd ei gynnal yn Stoke ddoe.

Lars Boom o'r Iseldiroedd sy'n arwain y ras ac mae Mark Cavendish, sydd wedi ennill 20 cymal o ras y Tour de France, yn ail.

Gwyntoedd cryfion

Bydd y cymal 114 milltir (183 cilometr) yn teithio trwy Lanfair-ym-Muallt, Aberhonddu, Aberdâr, Aberpennar ac Ystrad Mynach ac yn dod i ben y tu allan i Gastell Caerffili tua 2.30pm.

Mae 96 beiciwr sy'n rhan o 16 tîm proffesiynol yn cymryd rhan yn y ras eleni.

Mae'r ras wedi dychwelyd i Bowys am yr ail flwyddyn yn olynol ac mae'r pedwerydd cymal yn cael ei noddi gan Gyngor Sir Powys.

Cafodd yr ail gymal a gafodd ei gynnal yng Ngogledd Orllewin Lloegr ei ganslo ddydd Llun oherwydd gwyntoedd cryfion.

Bydd y ras yn gorffen yn Llundain ddydd Sul.



HEFYD
Dim gorffwys i Geraint
30 Gorff 11 |  Newyddion
Seiclo: Potensial Geraint Thomas
24 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific