British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Medi 2011, 06:56 GMT 07:56 UK
Marwolaeth: Rhyddhau dyn ar fechn´aeth

Mike Dye
Bu farw Michael Dye ar ddydd Mawrth, Medi 6

Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth cefnogwr pêl-droed yn Wembley yr wythnos ddiwethaf wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bu farw Michael Dye o Gaerdydd wedi iddo gael anaf difrifol i'w ben ychydig cyn y gêm rhwng Lloegr a Chymru ar Fedi 6.

Nos Fawrth cafodd dyn 42 oed ei arestio yn Sir Gaerwrangon mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwnnw.

Cafodd ei gludo i orsaf Heddlu West Mercia.

Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth tan ganol mis Tachwedd tra bod ymchwiliadau yn parhau.

Eisoes mae un dyn, Ian Mytton, 41 oed, o Redditch, Sir Gaerwrangon, wedi ymddangos gerbron ynadon i wynebu cyhuddiad o ddynladdiad Mr Dye.

Yna ddydd Sul cafodd tri dyn arall eu harestio yn un o orsafoedd Heddlu West Mercia wedi iddyn nhw fynd yno o'u gwirfodd.

Cafodd y tri eu rhyddhau, ond bydd rhaid iddyn nhw ddychwelyd ym mis Tachwedd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.



HEFYD
Marwolaeth: Arestio dyn arall
13 Medi 11 |  Newyddion
Agor cwest i gefnogwr pŕl-droed
13 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth: Dyn yn y ddalfa
12 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth Wembley: Arestio tri
11 Medi 11 |  Newyddion
Dim camau pellach yn erbyn chwech
09 Medi 11 |  Newyddion
Ymchwilio i farwolaeth
07 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific