British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Medi 2011, 20:48 GMT 21:48 UK
Marwolaeth: Arestio dyn arall

Mike Dye
Bu farw Michael Dye ar ddydd Mawrth, Medi 6

Mae dyn arall wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth cefnogwr pêl-droed yn Wembley yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Michael Dye o Gaerdydd wedi iddo gael anaf difrifol i'w ben ychydig cyn y gêm rhwng Lloegr a Chymru ar Fedi 6.

Eisoes mae un dyn, Ian Mytton o Redditch, Sir Gaerwrangon, wedi ymddangos gerbron ynadon i wynebu cyhuddiad o ddynladdiad Mr Dye.

Yna ddydd Sul cafodd tri dyn arall eu harestio yn un o orsafoedd Heddlu West Mercia wedi iddyn nhw fynd yno o'u gwirfodd.

Cafodd y tri eu rhyddhau, ond bydd rhaid iddyn nhw ddychwelyd ym mis Tachwedd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Nos Fawrth cafodd dyn arall 42 oed ei arestio yn Sir Gaerwrangon mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwnnw.

Cafodd ei gludo i orsaf Heddlu West Mercia lle mae'n parhau yn y ddalfa.



HEFYD
Agor cwest i gefnogwr pl-droed
13 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth: Dyn yn y ddalfa
12 Medi 11 |  Newyddion
Marwolaeth Wembley: Arestio tri
11 Medi 11 |  Newyddion
Dim camau pellach yn erbyn chwech
09 Medi 11 |  Newyddion
Ymchwilio i farwolaeth
07 Medi 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific