British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Medi 2011, 06:12 GMT 07:12 UK
Ffermwr yn gwrthod gwerthu tir

Atomfa'r Wylfa
Mae cwmni Horizon eisoes wedi prynu tir ger yr hen atomfa

Mae ffermwr llaeth ar Ynys Môn yn gwrthod gwerthu tir i gwmni sydd am godi ail atomfa ger Yr Wylfa.

Mae Horizon Muclear Power eisoes wedi prynu dros 500 erw o dir, ac yn ceisio prynu 200 arall.

Dywedodd y cwmni wrth Richard Jones, sy'n ffermio fferm Caerdegog ger Llanfechell eu bod am brynu 65 erw o'i dir ynghyd a 20 erw arall y mae'n rhentu.

Ond mae Mr Jones yn mynnu y bydd gwerthu'r tir yn golygu na fydd ei fferm laeth yn medru talu ffordd, ac y byddai hefyd yn dod a thraddodiad teuluol i ben.

Mae teulu Mr Jones wedi bod yn ffermio yn fferm Caerdegog ers dros 300 mlynedd, ac roedd mab Mr Jones - Owain - wedi gobeithio parhau gyda'r traddodiad.

Sefyllfa amhosib

Eifion Hughes yw Cadeirydd Pwyllgor Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, ond mae'n dweud fod yr undeb mewn sefyllfa amhosib.

Dywedodd fod rhai ffermwyr eisoes wedi gwerthu tir i Horizon tra bod eraill fel Richard Jones yn gwrthod.

Yr unig beth all yr undeb wneud, medd Mr Hughes, yw brwydro i gael yr iawndal gorau i'w aelodau.

Mae gan gwmni Horizon yr hawl i brynu'r tir yn orfodol, ond pwysleisiodd llefarydd ar eu rhan nad ydym am ddefnyddio'r pwerau hynny.

Tirlunio

Mewn datganiad, dywedodd cwmni Horizon:

"Mae'r tir sydd ar gael ar gyfer yr adeiladau parhaol ar gyfer gorsaf bŵer newydd yn Wylfa wedi'i amgylchu gan ffin sefydlog, ond efallai bydd angen rhywfaint yn rhagor o dir y tu hwnt i'r ardal hon arnom ni er mwyn ei ddefnyddio dros dro yn ystod y cofnod adeiladu, neu er mwyn tirweddu i wneud yn siŵr bod yr orsaf yn gweddu i'w amgylchedd yn y pen draw.

"Rydym yn dal i weithio ar ddylunio cynllun y safle, ond rydym wedi bod yn egluro'r sefyllfa hon i'n cymdogion ac rydym yn siarad â thirfeddianwyr lleol ynghylch ein hanghenion ychwanegol posibl, a hefyd oherwydd bydd angen mynediad arnom i dir er mwyn cynnal astudiaethau amgylcheddol.

"Os carai unrhyw un wybod mwy am ein cynlluniau, rydym yn fodlon iawn darparu rhagor o fanylion - gall pobl gysylltu â ni dros y ffôn ar 0800 954 9516 neu dros yr e-bost ar wylfaenquiries@horizonnuclearpower.com."



HEFYD
Wylfa yn un o wyth safle
23 Meh 11 |  Newyddion
Trafod diogelwch gorsafoedd niwclear
23 Maw 11 |  Newyddion
Ymestyn oes Wylfa tan 2012?
13 Hyd 10 |  Newyddion
Atomfa i'r Wylfa erbyn 2020?
30 Maw 10 |  Newyddion
Wylfa: Dau gwmni yn prynu tir
29 Ebr 09 |  Newyddion
Wylfa: Un o 11 'safle addas'
15 Ebr 09 |  Newyddion
Yr Wylfa: Cynlluniau newydd
17 Hyd 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific