British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Medi 2011, 06:20 GMT 07:20 UK
Ffrae am ddwy siop

Argraff artist o siop Co-operative Machynlleth ar ei newydd wedd
Argraff artist o siop Co-operative Machynlleth ar ei newydd wedd

Mae dau gwmni anferth yn mynd benben a'i gilydd i gael archfarchnad mewn tref ym Mhowys.

Mae cwmni Tesco wedi ailgyflwyno cais cynllunio i godi archfarchnad ym Machynlleth, tra bod cwmni Co-operative wedi ymateb drwy gyflwyno cais i ymestyn eu siop bresennol yn y dref.

Fe gafodd cais gwreiddiol Tesco ei dynnu nôl ym mis Mehefin y llynedd wedi Lywodraeth Cymru godi pryderon am ddiogelwch ar y ffyrdd gerllaw.

Yn y cyfamser mae cwmni Co-operative wedi arddangos eu cynlluniau nhw yn hen neuadd gymuned y dref.

Eu bwriad yw cynyddu maint y siop bresennol o 8,000 troedfedd sgwâr i 13,000 troedfedd sgwâr, ac maen nhw hefyd am greu 57 o leoedd parcio ychwanegol a mynedfa newydd i gwsmeriaid.

Yn ogystal bydd y cynllun yn golygu newid y tu mewn yn gyfan gwbl i greu mwy o le ac o nwyddau.

'Ailgylchu'

Dywedodd Dave Evans o'r Co-operative: "Rydym wedi bod ym Machynlleth nawr am bron 20 mlynedd, ac mae'r siop yn edrych yn hen ac angen gwedd newydd.

"Nid codi siop newydd yw'r bwriad, ond gwneud rhywbeth sy'n fwy caredig i'r amgylchedd sef ailgylchu'r hen siop a'i hymestyn."

Mae 52 o bobl yn gweithio yn y siop ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau am swyddi newydd petai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

18 milltir

Tynnodd Tesco eu cais gwreiddiol nhw yn ôl y llynedd wedi i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Mae gan y cwmni 2,715 o siopau yn y DU, ac roedd rhai pobl leol wedi gwrthwynebu eu cais yn ogystal gan ddweud y byddai'n niweidio siopau bach annibynnol lleol.

Dywed y cwmni nawr eu bod yn bwriadu creu 140 o swyddi rhan amser a llawn amser yn y dref.

Ar hyn o bryd, mae rhai o drigolion Machynlleth yn gyrru 18 milltir i archfarchnad yn Aberystwyth er bod gan y dref nifer o siopau bwyd llai.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific