Mae'r clwb wedi wynebu cyfnod anodd iawn yn ddiweddar
|
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod wedi cytuno ar werthiant y clwb mewn egwyddor. Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y ddwy ochr fod rhai manion yn weddill i'w cytuno ac na fyddai'r gwerthiant wedi ei gwblhau erbyn Medi 16 fel yr oedd wedi ei awgrymu bythefnos yn ôl. Ond roedd y ddwy ochr hefyd yn dweud eu bod yn gobeithio cwrdd wyneb yn wyneb yn fuan i ddatrys y materion hynny a'u bod am dawelu ofnau cefnogwyr. Roedd y datganiad yn dweud fod y cytundeb mewn egwyddor yn debyg o blesio'r awdurdodau pêl-droed ac y byddai perchnogaeth y clwb wedyn yn cael ei throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam. Dywedodd perchnogion presennol y clwb a bwrdd yr ymddiriedolaeth eu bod wedi cyhoeddi'r datganiad fel arwydd o fwriad i'r cefnogwyr ac i'r rheolwr, Dean Saunders, eu bod am gwblhau'r trosglwyddo cyn gynted â phosib Bydd hyn, meddai'r datganiad, yn galluogi Dean Saunders a'r cefnogwyr i ganolbwyntio ar ennill dyrchafiad i'r clwb yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed.
|