Mudiad: 'Lansio'r wefan Gymraeg yn gam pellach tuag at helpu mwy o fusnesau'
|
Mae'r Gymdeithas Bancio Prydeinig wedi cyhoeddi bod help ar gael ar-lein yn yr iaith Gymraeg i fusnesau bach a chanolig. Lansiwyd fersiwn Gymraeg metorsme.co.uk, www.mentorsme.co.uk/cymraeg, ddydd Mawrth yng Nghaerdydd gan brif weithredwr y mudiad, Angela Knight. Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd dywedodd hi: "Mae banciau yn ymrwymedig i helpu cwsmeriaid busnes i gael mynediad i'r cymorth y maen nhw ei angen i wneud eu busnesau yn llwyddiant." 'Mentora' Dywedodd fod gwaith ymchwil wedi dangos mai un o'r rhwystrau i sicrhau cytundeb i unrhyw gais am fenthyciad oedd y gallu i droi arbenigedd pobl busnes i mewn i gynnig at ddibenion y rheolwr banc. Felly, meddai, roedd banciau yn rhoi adnoddau i mewn i ddarparu mynediad rhad ac am ddim i fentoriaid fyddai'n gallu helpu gyda'r cynllun busnes. "Mae ein gwefan Mentorsme wedi bod yn llwyddiant yn barod ac rwy'n ymfalchïo ein bod wedi medru gweithio gyda chynifer o fudiadau uchel eu parch," meddai. "Mae lansio'r wefan Gymraeg yn gam pellach tuag at helpu mwy o fusnesau i gael mynediad i'r help y maen nhw ei angen." Holi ac ateb Roedd y gynhadledd yng ngwesty'r Radisson Blu a'r siaradwyr yn cynnwys Graham Morgan o Siambr Fasnach De Cymru, Chris Nott sy'n arwain Panel Sector Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol Llywodraeth Cymru a Tim Goodson, Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff Self Storage. Roedd uwchfancwyr busnes hefyd wrth law ar gyfer panel holi ac ateb, ynghyd â nifer o sesiynau gweithdai rhad ac am ddim. Cefnogwyd y digwyddiad gan Siambr Fasnach De Cymru.
|