British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Medi 2011, 11:12 GMT 12:12 UK
Enwebu robot i gario'r Fflam Olympaidd

iCub
Enwebwyd yr iCub er mwyn nodi canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing

Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth wedi enwebu robot i gario'r Fflam Olympaidd fel rhan o Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012.

Enwebwyd yr iCub gan Dr James Law o Adran Gyfrifiadureg y brifysgol er mwyn nodi canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing, tad cyfrifiadureg fodern.

Mae'r iCub, robot sy'n debyg i blentyn, yn rhan o brosiect ymchwil y brifysgol sy'n astudio prosesau dysgu mewn plant ifanc er mwyn eu trosglwyddo i strategaethau dysgu robotiaid.

Prynwyd yr iCub gan y Grŵp Roboteg Ddatblygiadol yn Aberystwyth fel rhan o gynllun IM-CLeVeR.

Mae'r hyn gyflawnodd (Alan Turing) wedi arwain at y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw, yn llawn cyfrifiaduron
Dr James Law

Y nod yw datblygu rheolyddion robot newydd wedi eu seilio ar syniadau a ysbrydolwyd gan niwrowyddoniaeth a seicoleg.

Dywedodd Dr Law: "2012 fydd canmlwyddiant geni Alan Turing, sefydlydd cyfrifiadureg ac aelod hollbwysig o'r ymdrechion i dorri'r cod yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

'Yr Ail Ryfel Byd'

"Byddai robot yn cario'r fflam yn deyrnged briodol i Alan Turing ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau a ddaw.

"Mae Alan Turing yn enwog am ei waith yn datblygu technegau cyfrifiadurol ar gyfer torri cod yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond rhan fach yn unig oedd hon o'i waith ....

"Fe greodd un o'r dyluniadau cyntaf o gyfrifiadur, sydd â rhaglen wedi ei chofnodi arno, a gosododd y seiliau ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial.

"Mae'r hyn a gyflawnodd wedi arwain at y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw, yn llawn cyfrifiaduron."

Mae'r prosiect yn cynnwys 10 o sefydliadau ar draws Ewrop yn gweithio mewn meysydd sy'n cynnwys roboteg, niwrowyddoniaeth, seicoleg ddatblygiadol, a dysgu peiriant.

Daeth y cyllid, €5.9m yn ei gyfanrwydd a £760,000 i'r tîm o Aberystwyth, oddi wrth Seithfed Raglen Fframwaith Systemau Dirnadol, Rhyngweithio, Roboteg y Gymuned Ewropeaidd.



HEFYD
Robot i ddysgu fel plentyn
19 Chwef 11 |  Newyddion
Robot meddwl gwyddonol
02 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific