British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Medi 2011, 08:44 GMT 09:44 UK
Trostre: Pryder am brinder archebion

Gwaith dur Tata yn Nhrostre
Mae'r cwmni'n dweud na fyddan nhw'n diswyddo unrhyw un

Ni fydd dur yn cael ei gynhyrchu ar safle Tata yn Nhrostre, Llanelli, am gyfnod o wythnos ym mis Hydref.

Gostyngiad yn nifer yr archebion yw'r rheswm am hynny.

Mae'r cwmni'n dweud na fyddan nhw'n diswyddo unrhyw un ond fe fydd rhai o'r 700 o weithwyr yno yn cael eu hadleoli.

Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni, mae'r penderfyniad yn adlewyrchu sefyllfa fregus economi Prydain ar hyn o bryd.

Prinder archebion

Bydd staff yn gwneud gwaith cynnal a chadw ac yn cael hyfforddiant, yn hytrach na chynhyrchu dur am wythnos ym mis Hydref.

Mae hyn yn golygu na fydd 9,000 tunnell o ddur ar gyfer caniau bwyd a diod yn cael ei gynhyrchu.

Dywedodd y cwmni fod rhaid iddyn nhw adlinio eu cyflenwad oherwydd prinder archebion.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata: "Mae hyn yn eithaf arwyddocaol am fod Trostre wedi bod yn brysur iawn yn ystod y 18 mis diwethaf.

"Mae'r adferiad yn edrych yn fregus iawn ac mae'r arwyddion i'r dyfodol yn achosi pryder i ni.

"Rydyn ni wedi bod yn brwydro yn erbyn storm hirdymor."

Dywedodd y llefarydd na allai ddweud os byddai Tata yn cyflwyno mesurau tebyg yn y ffatrïoedd ym Mhort Talbot a Llanwern, Casnewydd, yn y dyfodol.

Fe ddechreuwyd cynhyrchu alcam ar raddfa eang yn Llanelli ganol y 18fed Ganrif a buan iawn y bathwyd y ffugenw 'Tinopolis' ar dref y sosban.

Mae safle Trostre yn darparu cynnyrch ar gyfer ystod eang o gwmnïau, gan gynnwys Heinz.

Agorodd y gwaith yn 1951.



HEFYD
Cwmni dur yn buddsoddi 53m
26 Ebr 11 |  Newyddion
Trostre: Ofnau am 290 o swyddi
18 Ebr 08 |  Newyddion
Trostre: 'Peidiwch dod i'r gwaith'
01 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific