British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Medi 2011, 14:35 GMT 15:35 UK
Agor cwest i gefnogwr pl-droed

Michael Dye
Bu farw Michael Dye ar l cael anafiadau i'w ben

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mawrth i farwolaeth cefnogwr pêl-droed o Gaerdydd yn Wembley.

Cafodd Michael Dye, 44 oed, ei ddarganfod wedi'i anafu ger Gât C y stadiwm yr wythnos ddiwethaf cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr yng Nghystadleuaeth Euro 2012.

Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Barnet fod archwiliad post mortem wedi dangos bod Mr Dye wedi marw ar ôl cael anafiadau i'w ben.

Rpedd Ian Mytton, 41 oed o Redditch, Sir Gaerwrangon, o flaen ynadon ddydd Llun ar gyhuddiad o ddynladdiad.

Dim ond ychydig funudau a barodd y cwest agorwyd ddydd Mawrth gan Grwner Gogledd Llundain, Andrew Walker, cyn cael ei ohirio nes bod yr achos llys wedi'i gynnal.

Cafodd Mr Mytton ei gadw yn y ddalfa tan Fedi 20 a bydd yn ymddangos nesa' gerbron Llys y Goron Caerwrangon.

Mae Heddlu Llundain yn dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad pan fu farw Mr Dye.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific