British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Medi 2011, 19:25 GMT 20:25 UK
Ffrae: Y Gymraeg 'ddim yn hanfodol'

Hysbyseb am swydd prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai
Mae geiriad yr hysbyseb wedi denu beirniadaeth

Mae hysbyseb am swydd pennaeth un o golegau addysg bellach mwyaf Prydain wedi'i feirniadu am nad yw'n mynnu cael rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Mae'r hysbyseb ar gyfer Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai yn dweud y gallai ymgeisydd fyddai'n ymrwymo i ddysgu Cymraeg gael ei ystyried.

Ond mae'r geiriad wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr iaith.

Mae'r coleg yn dweud y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus un ai yn siaradwr Cymraeg neu'n ymrwymo i ddysgu'r iaith yn fedrus yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn y swydd.

Mae geiriad yr hysbyseb wedi cael ei feirniadu gan gadeirydd is bwyllgor iaith Cyngor Gwynedd, y cynghorydd Alwyn Gruffydd.

'Difodiant'

"Mae 'na gyfrifoldeb arnyn nhw," meddai Mr Gruffydd, "i sicrhau fod y bobl sydd â swyddi allweddol yn siarad Cymraeg, a Chymraeg iaith gynta'."

"Os na 'da ni'n gwneud hynny, 'da ni'n wynebu difodiant, hoelen arall yn arch yr iaith Gymraeg, a fedrwn ni ddim byth bythoedd ganiatáu hynny."

Bu ffrae debyg ychydig fisoedd yn ôl ynglŷn â phenodiad Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ond bellach mae April McMahon wedi dysgu Cymraeg.

Adroddiad Sion Tecwyn

Dywedodd Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Ry'n ni'n croesawu'r ffaith 'na, ma' fe'n beth da iawn. Ond ry'ch chi yn dibynnu ar unigolyn a does dim sicrwydd y bydd rhywun yn gallu dysgu Cymraeg neu y bydd y sefydliad yn gallu bod yn hollol Gymraeg mewn cyfnod mor fyr."

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau na all coleg Grŵp Llandrillo Menai wasanaethu'r gymuned heb gael prif weithredwr sy'n gwbl ddwyieithog.

Mae'r coleg newydd yn cael ei ffurfio trwy uno Coleg Llandrillo a Choleg Menai.

Pan fydd yr uniad wedi'i gwblhau ym mis Ebrill 2012, bydd y sefydliad yn un o'r darparwyr addysg bellach mwya' yn y DU - gyda 34,000 o fyfyrwyr, 2,000 o staff a throsiant o £70 miliwn pob blwyddyn.

'Dymunol'

Mae'n debyg y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer swydd y prif weithredwr yn ennill mwy o gyflog na'r Prif Weinidog.

Mewn datganiad, dywedodd y coleg:

"Mae byrddau corfforaethol y ddau sefydliad yn credu'n gryf fod y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ddymunol iawn ar gyfer y penodiad pwysig hwn.

Maen nhw hefyd wedi cytuno, gan gymryd popeth i ystyriaeth, y byddai'r gallu i siarad Cymraeg ar adeg y penodiad yn sgil dymunol, yn hytrach nag yn amod hanfodol."



HEFYD
Uno dau goleg: 'Carreg filltir'
01 Ebr 10 |  Newyddion
Colegau'n cydweithio
13 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific