British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Medi 2011, 06:20 GMT 07:20 UK
Casglu hanes mewnfudwyr Cymru

Batani Bambanani
Mae Batani Bambanani erbyn hyn wedi ffurfio grŵp canu

Mae Casgliad y Werin am ddathlu diwrnod Roald Dahl, un o fewnfudwyr enwocaf Cymru, drwy annog y cyhoedd i rannu eu straeon ymfudo gyda'r byd.

Nod y casgliad yw adlewyrchu hanes Cymru ar y we drwy hanesion ei phobl, gan gynnwys y rhai sydd wedi dewis gwneud Cymru'n gartref.

Ar ôl hel hanes y werin bobl mae Rheinallt Jones, rheolwr y prosiect, am adlewyrchu mwy am y rhai sydd wedi ymgartrefu yma dros y canrifoedd, fel yr awdur enwog Dahl a'i deulu Norwyeg, oedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

"Rydym am i bobl wybod bod hanes Cymru yn fwy eang na'r pethau amlwg," eglurodd Rheinallt Jones.

"Fel rhan o'r prosiect mae'r Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol wedi rhannu deunydd gyda ni, ond rydym eisiau i bobl fagu'r hyder i rannu eu storïau, lluniau neu fideo hefyd."

Mae o i fyny i chi i greu cartref o'ch sefyllfa newydd. Dwi wedi fy mendithio wrth gael dod i Gymru
Angeline Tshiyane

Gall hyn gynnwys y Cymry aeth yn ôl a 'mlaen i Lerpwl a Llundain, yr Eidalwyr a arhosodd yng Nghymru wedi'r Ail Ryfel Byd, neu drigolion hen Fae Caerdydd, un o'r cymdeithasau amlhiliol hynaf ym Mhrydain.

"Un ardal sy'n ddiddorol yw Pwllheli, sydd â chymuned Bwylaidd gryf ers degawdau," meddai Rheinallt Jones.

"Ond mae ail don o fewnfudwyr Pwylaidd wedi dod dros y deng mlynedd diwethaf. Fe fydd yn ddiddorol gweld sut maen nhw'n edrych ar ei gilydd."

Un sydd am rannu ei stori ar y we yw Angeline Tshiyane, 47, o Zimbabwe.

Daeth Angie i Gymru ar gyfer priodas ei chwaer yn 1985.

Ond ar ôl profi mis Mehefin gwlyb ac oer, nid oedd hi am ddychwelyd.

Ond wrth i'w bywyd hapus yn Harare cael ei danseilio o dan reolaeth yr arlywydd Robert Mugabe, penderfynodd geisio gwneud cartref newydd yng Nghasnewydd.

"Am y pum mlynedd cyntaf, doeddwn i ddim yn cael gweithio nes i mi gael trefn ar fy mhapurau. Roedd yn anodd iawn," eglurodd Angie, oedd yn gweithio mewn banc masnachol yn Zimbabwe.

Bywyd unig

"Er hynny, mi wnes i ddod i adnabod pobl trwy'r eglwys ac roeddent yn gynnes a chroesawgar ac mi wnes i gychwyn cynhesu tuag at Gymru."

Ond pan fu farw dynes o Zimbabwe a neb i drefnu ei hangladd, gwelodd Angie yr angen am grŵp cymorth i bobl o'i mamwlad oedd angen cymorth a chyfeillgarwch mewn gwlad estron.

"Roeddwn yn deall am deimlo'n unig ac ynysig mewn diwylliant estron," dywedodd. "Mi wnes i ddarganfod ymgyrch Cymru i Affrica Llywodraeth Cymru, sy'n hybu pobl i gychwyn prosiect fydd o fudd i'r ddau le. Mae ein grŵp ni, Batani Bambanani, yn hel arian i helpu mamau ifanc yn ne Zimbabwe."

Ar y cyfan, felly, mae Angie yn mwynhau ei bywyd newydd.

"Roedd yna rhai trafferthion i gychwyn efo pan symudais i Fetws, ardal eithaf difreintiedig yng Nghasnewydd," meddai. "Dwi wir yn colli adref, ond ar hyn o bryd, dwi wedi derbyn diwylliant newydd ac yn mwynhau fy swydd newydd yn gofalu am hen bobl.

"Mae o i fyny i chi i greu cartref o'ch sefyllfa newydd. Dwi wedi fy mendithio wrth gael dod i Gymru, ac mae ein grŵp bach ni wedi dod yn deulu i'r rhai sydd wedi ymgartrefu yma."



HEFYD
Croesawu plant heb Saesneg i Gaerdydd
29 Meh 11 |  Newyddion
Y rhai ddaeth i 'wlad yr addewid'
31 Ion 10 |  Newyddion
Seminar i drafod mewnfudo
21 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific