Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru yw newid agweddau pobl at drais yn y cartre
|
Mae ymgyrch i atal trais yn y cartre'n cael ei lansio yng Nghymru. Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru yw newid agweddau pobl at drais yn y cartre a rhoi gwybod i fenywod sut mae modd dod o hyd i help. Yn ôl Cymorth i Ferched Cymru, un o bartneriaid yr ymgyrch, mae chwarter menywod Cymru yn dioddef o drais yn y cartref. Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cymunedau: "Mae'r ymgyrch yn rhan o strategaeth chwe blynedd ac rydym wedi ennill rhywfaint o dir yn ystod y blynyddoedd diweddar. "Ond dwi'n cydnabod bod angen gwneud mwy a thrwy gydweithio gyda'n partneriaid byddwn ni'n cynnig help fel y gall pobl fyw heb ofn." 'Ymgyrchoedd' Dywedodd Paula Hardy, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched: "Mewn mwy nac 80% o achosion, mae'r ddioddefwraig yn adnabod ei threisiwr - mae'n debygol iawn mai partner neu gyn-partner yw'r troseddwr yn hytrach na dieithryn ar stryd dywyll. "Yn hanesyddol, mae ymgyrchoedd y llywodraeth wedi annog dioddefwyr i chwilio am help, gan efallai roi bai ar y rhai sydd ddim yn gwneud hynny. "Ond nod yr ymgyrch hon yw herio agweddau er mwyn i bobl sylweddoli nad yw'n dderbyniol trin menywod fel hyn." Mae'r lansiad yn cynnwys arddangosfa arbennig yn Arcêd y Frenhines yng Nghaerdydd gan gynnwys crysau T ar leiniau dillad ag arnyn nhw sylwadu am effaith y drosedd ar y ddioddefwraig. Help Un ferch gafodd help oddi wrth fudiad Cymorth i Ferched yw Rebecca Jones o Dde Cymru.
Almost 100 women are killed by partners or ex-partners each year
|
Cafodd hi a'i chyn-ŵr eu plentyn cyntaf pan oedd yn 16 oed a dywedodd fod y berthynas yn ddigon hapus ar y cychwyn. "Ond wedyn fe fydde fe'n pwnio'r walydd a'r dryse ac yn cicio pethe," meddai. "Yna fe fydde fe'n 'yn hwpo i, yn pwnio 'yn wyneb i ac yn 'y nghicio i. "Falle y byddwch chi'n synnu pam wnes i briodi flwyddyn a hanner wedyn ond o'dd e'n llawn addewidion, yn dweud bydde pethe'n well pan o'n ni'n briod. "Fe dwles i fe mas sawl gwaith cyn gadel iddo fe ddod yn ôl..." Cysylltodd hi â'r mudiad ar ôl gweld eu rhif ffôn ar ddrws toiled ac mae hi wedi cael help i symud sawl gwaith er mwyn dianc rhag ei chyn-ŵr. "Hales i wyth mlynedd cyn whilo am help," meddai, "ond wy mor falch 'mod i wedi. "Wy wedi dyweddïo gyda 'mhartner newydd ... dwi'n hapus iawn." Y llinell cymorth ar gyfer trais yn y cartref yw 0808 8010100, gan gysylltu gydag elusennau fel Cymorth Merched Cymru.
|